16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Newyddion

Mae un o fyrddau iechyd Cymru, sy’n annog staff i “anelu am yr entrychion” trwy fuddsoddi mewn  recriwtio a datblygu gyrfaoedd, wedi ennill gwobr brentisiaeth genedlaethol uchel ei bri.

Enillodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wobr Macro-Gyflogwr y Flwyddyn yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 a gynhaliwyd yn ICC Cymru, Casnewydd.

Mae’r bwrdd iechyd wedi bod yn uwchsgilio ei weithlu drwy ddefnyddio amrywiaeth o brentisiaethau ers 2006, ond cyflymodd ei raglen yn sgil creu Academi Brentisiaethau yn 2018. Mae bron i 900 o unigolion newydd wedi cofrestru, gan gynnwys recriwtiaid newydd i’r sector.

Mae’r dull deuol hwn yn bwrw ffrwyth, gan fod bron i ddau ddwsin o brentisiaethau wedi creu cyfleoedd i adeiladu gyrfa i weithwyr presennol yn ogystal â newydd-ddyfodiaid. Mae ffrwd newydd o dalent yn helpu i fynd i’r afael â her recriwtio a chadw staff.

Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.

Prif noddwr eleni oedd EAL, partner sgiliau a sefydliad dyfarnu arbenigol ar gyfer diwydiant. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Ar ôl derbyn y wobr, dywedodd Emma Bendle, cydgysylltydd prentisiaethau ac ehangu mynediad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro : “Rwy’n credu bod y wobr anhygoel hon yn cydnabod ac yn profi gwerth y gwaith rydym wedi’i wneud hyd yn hyn a byddwn yn adeiladu ar y llwyddiant hwn.

“Rydw i wedi bod yn fy swydd am y pum mlynedd diwethaf ac i mi, yn bersonol, mae’n teimlo fel bod yr angerdd a’r gwaith caled sydd wedi’i wneud wedi talu ar ei ganfed i bawb rydw i wedi’i recriwtio fel prentis neu i aelodau staff sydd wedi gallu symud ymlaen. Mae prentisiaethau wedi agor drysau at gyfleoedd newydd i bawb.

“Mae prentisiaethau’n gweithredu ar wahanol lefelau ac yn cael eu paru â’n rolau band i sicrhau eu bod yn addas ac yn hwylus i’w cwblhau. Mae hyn yn rhoi cyfle i unigolion anelu am yr entrychion neu ddewis lefel lle maen nhw’n teimlo’n gyfforddus, gan hyrwyddo dull mwy cynhwysol o weithredu drwy ddiwallu anghenion unigolion â sgiliau a galluoedd amrywiol.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn wych. Rydym wedi gwylio a gwrando ar fideos am bobl a chyflogwyr anhygoel sydd i gyd wedi elwa ar brentisiaethau.”

Mae partneriaethau wedi bod yn hanfodol wrth ddarparu’r nifer fawr o raglenni sydd ar gael, ac mae Talk Training, Educ8, ALS Training a Choleg Caerdydd a’r Fro wedi ymuno â’r prif ddarparwr hyfforddiant, ACT i weithio ochr yn ochr â’r bwrdd iechyd.

Dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Fe hoffwn i longyfarch nid yn unig y bwrdd iechyd ac enillwyr gwobrau eraill, ond yr holl gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a gafodd eu henwebu.”

Dywedodd Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Simon Pirotte OBE: “Dw i am longyfarch yr holl enillwyr a’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Mae straeon fel eu rhai nhw yn dangos yn eglur iawn yr effaith fawr y gall prentisiaeth ei chael, gan helpu pobl i ddod o hyd i gyflogaeth foddhaol a chyfrannu at system sgiliau Cymru. Fe fyddan nhw’n rhan hanfodol o’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd newydd ei sefydlu.

“Mae’n bwysig arddangos eu llwyddiannau, gan fod hynny’n ysbrydoli mwy o bobl i ystyried prentisiaethau ac yn annog rhagor o gyflogwyr i gyflogi prentisiaid.”

Rhannwch