Ynglŷn â’r cwrs hwn
Mae ein Diploma ILM Lefel 5 mewn Rheolaeth yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth hanfodol, rheoli newid strategol a dylunio prosesau busnes er mwyn uchafu effeithiolrwydd sefydliadol
Mae’r Brentisiaeth hon wedi’i hanelu at Reolwyr, Rheolwyr Canol ac Uwch Reolwyr. Mae rheolwyr sy’n gweithredu ar Lefel 5 yn chwarae rhan annatod mewn cynllunio strategol, rheoli newid a chyflawni canlyniadau.
Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sydd fwyaf addas i’ch rôl, a’ch busnes).
Mae’r unedau gorfodol yn cynnwys:
- Cyfrannu at Ddatblygiad Cynllun Strategol
- Dylunio Prosesau Busnes
- Rheoli Newid Strategol
- Darparu arweinyddiaeth a rheolaeth
Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun
Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.
Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.
Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster.
Mae cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol yn cynnwys:
- Rheolwyr Canol
- Uwch Reolwyr
Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:
- yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
- yn byw yng Nghymru
- ddim mewn addysg llawn amser
- ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
- Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma
Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:
- fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
- gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
- ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
- gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
- cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru