Y nglyn â’r cwrs hwn:
Mae ein Prentisiaeth Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant, Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 5 yn galluogi dysgwyr i ddatblygu ac arddangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth yng nghyd-destun lleoliadau gofal, chwarae, dysgu a datblygu plant. Bydd dysgwyr yn gallu dangos eu bod yn deall ystod o gysyniadau, damcaniaethau a thechnegau arweinyddiaeth a rheoli.
Mae’r Brentisiaeth hon ar gyfer dysgwyr a gyflogir yn y sector Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Mae’n darparu dilyniant i ddysgwyr sydd wedi cwblhau’r cymhwyster Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (ymarfer) Lefel 3 neu gymhwyster etifeddiaeth a restrir yn y Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Rheoledig yng Nghymru – Gofal Cymdeithasol Cymru neu sydd â phrofiad perthnasol yn y sector