Ynglŷn â’r cwrs hwn:
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio ar gyfer cyfranogwyr sy’n dymuno datblygu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u sgiliau cymorth cyntaf er mwyn gweithio’n ddiogel, yn effeithiol ac yn effeithlon yn y gweithle. Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at swyddogion cymorth cyntaf enwebedig yn y gweithle ac mae’n addas ar gyfer nifer o wahanol anghenion. Cwrs undydd, a asesir yn ymarferol a thrwy arholiad ysgrifenedig.