16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Dysgwyr

Mae dysgwr â dawn TG  wedi cael rôl gyda Chymdeithas Adeiladu’r Principality diolch i’w waith caled yn ACT.

Dechreuodd Joel Wilson astudio TG drwy raglen Twf Swyddi Cymru + – rhaglen a gynlluniwyd i helpu pobl ifanc 16 i 19 oed baratoi ar gyfer byd gwaith. Dechreuodd astudio gydag ACT er mwyn cael mwy o brofiad ym maes TG. Roedd hefyd wedi clywed bod llinyn ymgysylltu’r rhaglen yn cynnig lleoliadau gwaith.

Mynychodd Joel sgwrs ym mhencadlys ACT, Ocean Park House, lle siaradodd Cymdeithas Adeiladu’r Principality am y gwahanol gyfleoedd digidol sydd ganddynt o fewn y cwmni.

Mynegodd Joel ddiddordeb mewn gwneud cais am swydd gyda nhw ac fe aeth, gyda thri dysgwr TG arall, i gyfweliad yn yr wythnosau canlynol.

Roedd Joel yn llwyddiannus, gan sicrhau lleoliad 12 mis gyda’r Principality mewn partneriaeth â chwaer gwmni ACT, ALS, fel Dadansoddwr TG Iau.

Bydd ei rôl yn cynnwys helpu i ddatrys problemau cyfrifiadurol ar gyfer aelodau staff a chwsmeriaid.

Am ei amser gyda TSC+, dywedodd Joel: “Fy hoff ran o astudio TG yw archwilio gwahanol raglenni. Roeddwn i eisiau bod yn fwy hyderus ynof fi fy hun ac rydw i wedi gwella fy sgiliau TGCh. Gallaf nawr greu cyflwyniadau Power Point gwell,  a chreu animeiddiadau a phosteri gan ddefnyddio apiau fel PowToon a Canva.”

Mae rhaglen Twf Swyddi Cymru+ yn ymwneud ag adeiladu hyder, nid yn unig ym maes dewisol y dysgwr ond wrth ddatblygu sgiliau personol a phroffesiynol. Caiff dysgwyr eu hannog i astudio pynciau fel iechyd meddwl ac iechyd rhywiol ac i fireinio eu sgiliau allweddol mewn rhifedd a llythrennedd.

Dywedodd Matthew Hillier, Tiwtor TG a Sgiliau Busnes: “roedd yn bleser cael Joel yn y dosbarth TG yn ACT.  O’r cychwyn cyntaf, dangosodd ymroddiad i’w astudiaethau, gan ddangos angerdd gwirioneddol dros TG a diddordeb brwd mewn deall cymhlethdodau’r maes.

“Rwy’n dymuno’r gorau i Joel yn ei holl ymdrechion yn y dyfodol ac rwy’n hyderus y bydd ei uchelgais yn ei arwain at yrfa addawol a gwerth chweil tu hwnt.”

Rhannwch