16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Hyd 2024 / Dysgwyr

Mae un o ddysgwyr ACT, a ymunodd â rhaglen Twf Swyddi Cymru + tra roedd yn y broses o adeiladu ei gyfrifiadur ei hun, wedi ennill prentisiaeth gyda Legal & General.

Mae Nathan Emary wedi bod yn astudio TG, ochr yn ochr â Sgiliau Hanfodol, ac fe’i denwyd at lwybr TSC+ ar ôl gorffen yn yr ysgol gan ei fod yn cynnig profiad gwaith a chyfle i ennill arian. Roedd hyn o ddiddordeb arbennig i Nathan a oedd yn adeiladu cyfrifiadur ar y pryd ac eisiau ennill sgiliau TG ychwanegol yn ogystal ag arian er mwyn  ariannu’r prosiect.

“Mae’r awyrgylch [o fewn TSC+] fel dim arall,” meddai. “Dwi’n cyd-dynnu gyda’r holl ddysgwyr yno ac mae’r dosbarth yn groesawgar iawn. Fy nhiwtor Matt yw’r gorau, dwi erioed wedi clicio gydag unrhyw un yn y rôl fel fe ac mae’r ffordd y mae’n gadael i bawb ddysgu yn eu pwysau yn arbennig – mae’n bendant yn caniatáu imi gymryd unrhyw beth y mae’n ei addysgu i mewn yn llawn.

“Mae hefyd yn hapus i fynd dros unrhyw beth gyda fi yn bersonol ac mae bob amser ar gael ar gyfer sgwrs gyffredinol hyd yn oed tra’n dysgu nifer o fyfyrwyr ar unwaith.”

Bydd Nathan nawr yn ymuno â Legal and General fel prentis gwasanaeth cwsmer yn adran bensiwn y cwmni. Bydd yn gyfrifol am wirio a phrosesu dogfennau.

“Mae fy amser yn ACT yn bendant wedi fy helpu gyda’r amgylchedd gwaith hybrid fydd gen i yn Legal and General gan ein bod ni’n gweithio’n rhithiol 2-3 diwrnod yr wythnos.

“[O ran sgiliau a enillwyd yn ACT] mae cyfathrebu a chydweithio yn allweddol ac mae’r rhain wedi fy helpu’n sylweddol.”

Er ei fod yn newydd ddyfodiad i’w rôl, mae Nathan yn awyddus i beidio â gorffwys ar ei rhwyfau ac mae ganddo ddyheadau mawr ar gyfer ei yrfa yn y dyfodol.

“Yn y tymor hir, hoffwn fod yn gyfrifol am fy nghwmni fy hun. Rwyf am symud i fyny yn Legal and General, gan ennill gymaint a phosib o brofiad a’r cymwysterau, a gobeithio symud i swydd reoli. Yn y pen draw, rwyf am ddechrau fy musnes fy hun sy’n cynnwys technoleg glyfar.”

Os ydych rhwng 16 a 19 oed ac eisiau dysgu mwy am raglen Twf Swyddi Cymru + gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion a chyrsiau yma.

Rhannwch