Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod enwebiadau bellach ar agor ar gyfer Gwobrau Llwyddiant drwy Sgiliau 2025, dathliad o ragoriaeth mewn dysgu seiliedig ar waith a datblygu sgiliau. Mae’r digwyddiad hwn yn anrhydeddu cyflawniadau rhyfeddol dysgwyr a chyflogwyr sydd wedi dangos ymroddiad arbennig i dyfu eu sgiliau, hyrwyddo eu gyrfaoedd, a chyfrannu at eu gweithleoedd. Mae’r gwobrau’n cydnabod y rhai sydd wedi serennu trwy raglenni prentisiaethau, addysg alwedigaethol neu hyfforddiant yn y gwaith, gydag ACT, ALS neu unrhyw un o’n partneriaid ers mis Tachwedd 2023.
Eleni byddwn yn gwobrwyo enillwyr Arian ac Aur ym mhob categori, gan gynnwys:
- Dysgwr Prentisiaeth y Flwyddyn
- Dysgwr Prentisiaeth Sylfaen y Flwyddyn (Lefel 2)
- Dysgwr Prentisiaeth Uwch y Flwyddyn
- Dysgwr TSC+ y Flwyddyn (Gwobrau Hyrwyddo ac Ymgysylltu)
- Dysgwr Ysgolion ACT y Flwyddyn
- Dysgwr Sgiliau Hanfodol y Flwyddyn
- Cyflogwr Mawr y Flwyddyn
- Cyflogwr BBaCh y Flwyddyn
- Hyrwyddwr y Gymraeg
- Hyrwyddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
P’un a ydych chi’n ddysgwr uchelgeisiol sydd wedi croesawu heriau newydd, yn gyflogwr blaengar sydd wedi ymrwymo i feithrin talent, neu’n fentor sy’n arwain y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol medrus, rydym yn eich annog i enwebu pobl sydd wedi cael effaith wirioneddol ystyrlon. Trwy enwebu, rydych chi’n helpu i gydnabod yr ymdrech, yr arloesedd a’r ymroddiad sy’n gyrru llwyddiant mewn dysgu seiliedig ar waith, gan arddangos pŵer datblygu sgiliau i drawsnewid gyrfaoedd a diwydiannau fel ei gilydd. Gyda’n gilydd, gadewch i ni ddathlu’r hyrwyddwyr dysgu hynny sy’n llunio dyfodol mwy disglair iddyn nhw eu hunain a’u cymunedau.
Dyddiadau Allweddol
- Enwebiadau’n cau: 29ain o Dachwedd 2024
- Hysbysir y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol: 9fed o Ionawr 2025
- Seremoni Wobrwyo: 6ed o Chwefror 2025
I gyflwyno enwebiad, ewch i yma a llenwch y ffurflen ar-lein. Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu straeon a llwyddiannau anhygoel ein dysgwyr a’n cyflogwyr.
Bydd pob enwebai yn derbyn tystysgrif ddigidol i gydnabod eu hymroddiad i wella sgiliau.