Mae ACT wedi ennill y 15fed safle ym Mynegai Cyflogwyr Mwyaf Cynhwysol y DU eleni gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth.
Mae’r ganolfan yn helpu cwmnïau i adeiladu gweithleoedd mwy cyfeillgar, tecach ac amrywiol, gan gydnabod sefydliadau sydd wedi meithrin diwylliant cynhwysol yn eu mynegai.
Mae ACT wedi cipio’r 15fed safle, gyda’i sefydliad ymbarél, Coleg Caerdydd a’r Fro, yn ennill Darparwr Addysg Bellach y Flwyddyn a dod yn ail yn gyffredinol.
Dywedodd Rebecca Cooper, Pennaeth Pobl a Datblygiad ACT: “Rydym wrth ein bodd o gael ein cydnabod fel y 15fed gweithle mwyaf cynhwysol yn y DU, cyflawniad rhyfeddol sy’n adlewyrchu ymroddiad a gwaith caled ein cydweithwyr ar draws ACT.
“Mae’r anrhydedd hon, a ddyfarnwyd gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth, yn garreg filltir bwysig yn ein taith barhaus tuag at feithrin amgylchedd cynhwysol a chroesawgar i’n tîm a’n dysgwyr.
“Er ein bod yn cydnabod bod gwaith i’w wneud o hyd, rydym yn falch o’r cynnydd rydym wedi’i wneud ac yn parhau i fod yn ymrwymedig i hyrwyddo amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant ymhellach yn ACT.”
Ychwanegodd Solat Chaudhry, Prif Weithredwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth: “Rwy’n danfon fy llongyfarchiadau cynhesaf i ACT Training ar gyrraedd rhif 15 yn y Mynegai 100 Cyflogwr Mwyaf Cynhwysol y DU 2024 yn llwyddiannus.
“Mae’r sefydliadau ysbrydoledig sy’n cyrraedd y 100 uchaf yn cynnal safonau cadw a recriwtio gweithwyr rhagorol ac yn dangos yn glir sut y maen nhw’n gwerthfawrogi ac yn parchu’r bobl sy’n gweithio iddyn nhw.
“Beth well na chael eich cydnabod gan gyfoedion ac eraill sy’n teithio i’r un cyfeiriad tuag at nod cyffredin Tegwch yn y gweithle. Mae’n hynod o ysgogol.”
Daw’r cyflawniad ar ben cyfres o wobrau i ACT a ddaeth yn 56fed yn ddiweddar yn y 100 Cwmni Mawr Gorau i Weithio Iddynt yn y DU a’r 5ed Sefydliad Addysg a Hyfforddiant Gorau.
Ar y pryd, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Richard Spear: “Mae hapusrwydd ac ymgysylltiad staff yn un o nodau strategol ACT ac mae’n allweddol i’n llwyddiant.
“Mae ACT yn mynd y tu hwnt er mwyn sicrhau bod timau’n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu grymuso a’u cydnabod am y gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud bob dydd.
“Mae gennym ffocws cryf ar les a diwylliant o anogaeth ledled y sefydliad. Mae hyn yn galluogi staff i ddarganfod eu datrysiadau eu hunain i broblemau ac mae ganddynt y rhyddid a’r ymreolaeth i wneud y peth iawn i ddysgwyr.”
Yn gynharach y mis hwn, roedd ACT hefyd ar y rhestr fer ar gyfer Cyflogwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Buddsoddwyr mewn Pobl.