Mae ACT wedi ennill ei blwyf ymhlith cyflogwyr gorau’r DU yng nghynghrair Best Companies eleni, gan gadw ei safle fel un o’r darparwyr addysg gorau i weithio iddo yn y wlad.
Mae ACT wedi dringo’r rhestr ers ei wobrwyo y llynedd, gan gadw ei le yn y pum sefydliad addysg a hyfforddiant gorau yn genedlaethol, a symud i’r 56ed cwmni mawr gorau i weithio iddo yn y DU, a’r 11eg gorau yng Nghymru.
Mae’r achrediad Best Companies yn cydnabod busnesau bach, canolig a mawr ar draws gwahanol ranbarthau a sectorau yn genedlaethol, gan eu graddio yn ôl ffactorau pwysig fel lles, arweinyddiaeth a chyflog teg. Mae’r rhain yn cael eu casglu gan ddefnyddio arolwg dienw i’r staff.
Dywedodd Pennaeth Pobl a Datblygu ACT, Rebecca Cooper: “Ar ôl blwyddyn heriol, rydym yn hynod falch o fod wedi cadw ein hachrediad dwy seren gyda Best Companies am lefelau ymgysylltiad staff rhagorol, yn ogystal â sicrhau ein lle — a mynd yn bellach — ar y rhestrau Cenedlaethol, rhanbarthol, a sector-benodol Cwmnïau Gorau i Weithio Iddynt .
“Mae’r cyflawniad hwn yn dyst i angerdd ac ymroddiad ein tîm cyfan — o uwch arweinwyr i reolwyr a gweithwyr — sy’n ymdrechu’n barhaus i wneud ACT yn lle gwych i weithio.
“Rydyn ni’n cydnabod bod wastad lle i wella. Eleni, rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi amser ac adnoddau sylweddol i ddadansoddi ein data ymgysylltu â gweithwyr a chydweithio â phob tîm yn ACT i ddatblygu cynlluniau gweithredu sy’n gwella diwylliant ein gweithle hyd yn oed ymhellach.”
Ychwanegodd Rheolwr Gyfarwyddwr ACT, Richard Spear: “Mae hwn yn ganlyniad gwych i ACT ac, ar ôl blwyddyn llawn heriau allanol, mae’n tanlinellu cryfder a gwytnwch ein tîm.
“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi symud i fyny rhestr y 100 gorau ac rydym yn hynod ddiolchgar i bob aelod o’n staff am wneud ACT yn lle mor rhyfeddol i weithio.
“Er bod hyn yn gyflawniad gwych, rydym yn cydnabod bod mwy y gallwn ei wneud o hyd. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â’m holl gydweithwyr i wneud ACT yn lle gwell fyth i weithio a ffynnu.”
Mae ACT wedi bod yn ‘Gwmni Rhagorol i Weithio Iddo’ achrededig gyda Best Companies ers bron i ddegawd ac mae’n ymroddedig i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn gwmni o ddewis i bobl sy’n chwilio am yrfa mewn addysg.