Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith heddiw wedi cyhoeddi penodiad Richard Spear fel Cadeirydd ei Grŵp Strategaeth Cymru ac Ymddiriedolydd Dysgu a Gwaith.
Bydd Richard yn helpu I roi arweinyddiaeth strategol a gwybodaeth ar gyfer gwaith Dysgu a Gwaith yng Nghymru ac ychwanegu llais o Gymru at waith Dysgu a Gwaith ar draws y Deyrnas Unedig. Bydd yn olynu Jeff Greenidge a arweiniodd y grŵp am dros ddegawd, gan helpu i sicrhau bod dysgu gydol oes a gwaith gwell yn ganolog i bolisi yng Nghymru.
Daw Richard â chyfoeth o brofiad i’r swydd gyda 25 mlynedd o brofiad mewn addysg a hyfforddiant a bu ganddo swyddi uwch o fewn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, yn cynnwys Pennaeth Cyllid Rhaglen ar gyfer Llywodraeth Cymru, Cyfarwyddwr Sefydliad Cenedlaethol Addysg Barhaus i Oedolion, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru, Rheolwr Cyfarwyddwr ACT Training a Chadeirydd ALS Training.
Wrth siarad ar ei benodiad, dywedodd Richard: “Rwyf wrth fy modd i ymuno â bwrdd y Sefydliad Dysgu a Gwaith ac i gadeirio Grŵp Strategaeth Cymru. Fel eiriolwr angerddol dros gydol gyfoes oes, rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu at weledigaeth y Sefydliad ar gyfer cymdeithas lewyrchus a theg lle mae dysgu a gwaith yn rhoi cyfleoedd i bawb i wireddu eu potensial.”