Mae caffi cymunedol yng nghanol ystâd yng Nghasnewydd yn rhoi profiad proffesiynol gwerthfawr i ddysgwyr.
Mae’r siop goffi, sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Gymunedol Ringland, yn cael ei rhedeg yn gyfan gwbl gan fyfyrwyr Academi Ieuenctid Casnewydd sy’n ymgymryd â chymwysterau drwy gynllun Twf Swyddi Cymru +.
Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i bobl ifanc rhwng 16 a 19 oed hogi eu sgiliau proffesiynol, gan ennill cymwysterau a fydd yn eu paratoi ar gyfer byd gwaith a thu hwnt. Yn y caffi, gall dysgwyr ymarfer eu sgiliau arlwyo a lletygarwch, ennill cymwysterau diogelwch bwyd a chael profiad o baratoi bwyd ar raddfa fawr, gan eu bod yn aml yn arlwyo ar gyfer digwyddiadau cymunedol.
Dywedodd Rhion Hollister, Rheolwr Cyflenwi Academi Ieuenctid Casnewydd: “Fe wnaeth gwybodaeth o’r farchnad lafur leol a thwf y sector Lletygarwch ac Arlwyo ein helpu i lunio’r ddarpariaeth. Gwelsom gyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy yng Nghasnewydd a chyda hyn mewn golwg roedd angen i ni greu amgylchedd byw lle gallai myfyrwyr ymarfer eu sgiliau yn fewnol cyn mynd ar leoliad gwaith.”
Gan mai dim ond i staff, myfyrwyr a rhai cleientiaid y mae’r caffi ar agor, mae wedi dod yn gam gwerthfawr i ddysgwyr sydd wedi rhoi eu bryd ar weithio yn amgylchedd prysur y sector lletygarwch, gan ganiatáu iddynt brofi prysurdeb caffi heb brofi pwysau siop gadwyn neu leoliad mwy o faint.
“Buom hefyd yn trafod syniadau ar sut y gallwn wella hyder a sgiliau bywyd dysgwyr,” ychwanegodd Rhion.
“Mae delio â chwsmeriaid a choginio prydau rhad wedi cyfrannu at wella iechyd a lles y myfyrwyr sy’n gweithio yn y caffi ond hefyd y rhai sy’n derbyn diodydd poeth a phrydau am ddim.”
Nid dim ond yn gyfrifol am redeg y caffi, sydd ar agor tri diwrnod yr wythnos, o ddydd i ddydd y mae’r dysgwyr. Roedd rhai hefyd yn rhan bwysig o’r weledigaeth, gan helpu i osod y lle, yn ogystal â hyfforddi myfyrwyr newydd a oedd am ddysgu sut i wneud diodydd poeth gwahanol. I lawer, mae eu hamser yn gweithio yn y caffi wedi tanio diddordeb yn y sector lletygarwch ac maent bellach am ddilyn swydd yn y maes hwnnw.
“Mae’r caffi yma i aros,” meddai Rhion. ” Yr agwedd fwyaf buddiol ohono, yn bendant, yw gweld y myfyrwyr yn cael profiad gwaith amhrisiadwy mewn amgylchedd saff yn ogystal â’ gweld yr holl fyfyrwyr yn derbyn pryd o fwyd a diod boeth bob dydd.”