Croesawodd ACT y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant AS, i’w prif swyddfa ar gyfer taith o amgylch ei chyfleusterau sgiliau mwyaf newydd.
Gwelodd y Gweinidog raglen Twf Swyddi Cymru + yng nghanolfan Ocean Park House ACT, gan gwrdd â dysgwyr o lwybrau gwallt a harddwch, TG a gofal plant.
Mae’r adeilad wedi cael ei ailwampio’n ddiweddar i gwrdd ag anghenion twf sylweddol ar y rhaglen, gyda lle salon ac ystafelloedd dosbarth newydd sbon, gan groesawu dysgwyr oedd gynt yng nghanolfan sgiliau ACT yn Hadfield Road.
Mae Twf Swyddi Cymru + yn rhaglen hyfforddiant a datblygiad Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen ar bobl ifanc i ennill swydd neu symud at hyfforddiant pellach. Mae’n rhaglen hyblyg iawn sydd wedi’i chynllunio o amgylch yr unigolyn; y dysgwr. Yn ogystal â mireinio sgiliau allweddol mewn rhifedd a llythrennedd, cefnogir dysgwyr i ddatblygu yn eu maes dewisol, gan symud ymlaen at brentisiaethau, coleg, lleoliadau gwaith neu entrepreneuriaeth.
Yn ystod yr ymweliad, siaradodd Jack Sargeant â dysgwyr yng nghlwb brecwast ACT. Mae’r clwb yn agored i bob dysgwr TSC+ ac yn darparu amrywiaeth o fwyd a diodydd nid yn unig yn y bore ond drwy gydol y dydd – darpariaeth bwysig sy’n sicrhau bod pawb yn gallu cael pryd o fwyd maethlon a’u bod yn gallu gweithio ar stumog lawn.
Wrth sgwrsio â’r Gweinidog, soniodd dysgwyr am eu hannibyniaeth gynyddol o’i gymharu â’r ysgol a naws hamddenol a chefnogol eu canolfan.
Yna dangoswyd y salon newydd i Jack Sargeant gan arddangos dysgwyr wrth eu gwaith.
Mae llawer o’r dysgwyr yn paratoi ar hyn o bryd i symud ymlaen i leoliad gwaith. Eglurodd Charlotte Simms, ein rheolwr darpariaeth, fod gan ACT berthynas arbennig o dda gyda busnesau lleol, yn enwedig yn y sector gwallt a harddwch, gyda chyn-ddysgwyr sydd bellach wedi sefydlu eu hunain mewn gyrfaoedd yn cynnig cyfleoedd i’r rhai sydd ar y rhaglen ar hyn o bryd.
Yna dangoswyd ystafelloedd dosbarth TG a gofal plant newydd y ganolfan i’r Gweinidog a rhoddwyd cipolwg ar y llwybrau dilyniant sydd ar gael i’r bobl ifanc sy’n gweithio tuag at eu cymwysterau.
Wrth siarad am yr ymweliad, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr ACT, Richard Spear: “Roedd yn wych croesawu Jack Sargeant AS i ACT er mwyn iddo weld a’i lygaid ei hun effaith hynod gadarnhaol y rhaglen TSC+ ar ddysgwyr sy’n gweithio’n galed tuag at eu cymwysterau.
“I ni, mae Twf Swyddi Cymru + yn gymaint o raglen llesiant ag y mae’n rhaglen addysgol a sgiliau, ac rydym yn ddiolchgar iawn i’r Gweinidog a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth. Nod ACT yw gwella bywydau drwy ddysgu ac mae Twf Swyddi Cymru + yn cynnig y sgiliau, yr hyder a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar bobl ifanc i lwyddo yn bersonol ac yn broffesiynol.”