16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Newyddion

Yn benderfynol o fynd i’r afael â gwahaniaethau rhwng y rhywiau mewn sgiliau achub bywyd, mae prif ddarparwr hyfforddiant Cymru, ACT, wedi buddsoddi mewn dymis adfywio cardiopwlmonaidd (CPR) gydag anatomeg fenywaidd realistig. Nod y cam yw sicrhau bod dysgwyr yn hyderus ac yn gyfforddus i wneud CPR ar fenywod, gan fynd i’r afael a’r amharodrwydd i wneud hynny mewn argyfyngau go iawn.

Mae’r penderfyniad i gyflwyno modelau â bronnau yn dilyn ymchwil sy’n datgelu bod menywod sy’n dioddef ataliad ar y galon yn gyhoeddus yn llawer llai tebygol o dderbyn CPR na dynion.

Canfu astudiaeth ddiweddar a amlygwyd gan The Guardian fod gwylwyr yn aml yn amharod i weithredu oherwydd pryderon ‘cyffwrdd amhriodol’. Mae’r ‘tabŵ’ o amgylch bronnau menywod yn golygu mai dim ond 68% o fenywod sy’n debygol o dderbyn CPR gan wylwyr o’i gymharu â 73% o ddynion ar hyn o bryd .

Yn syfrdanol, dangosodd ymchwil blaenorol y gallai mwy na 8,200 o fenywod yng Nghymru a Lloegr fod wedi goroesi trawiad ar y galon pe baent wedi cael yr un driniaeth â dynion, yn ôl data rhwng 2003 a 2013.

Ac mae’n fater y gellid mynd i’r afael ag ef ar lefel hyfforddiant. Amlygodd astudiaeth gan Brifysgol Melbourne mai dim ond oddeutu un o bob 20 o ddymis hyfforddi sydd â bronnau, sy’n golygu bod y rhan fwyaf o bobl sy’n dysgu sgil achub bywyd CPR yn gwneud hynny ar fodelau sy’n hollol wahanol i gorff menyw nodweddiadol.

Dywedodd Joe Esau, tiwtor ACT: “Yn hanesyddol mae hyfforddiant adfywio cardiopwlmonaidd wedi bod yn niwtral o ran rhywedd, ond erbyn hyn rydym yn gwybod bod gan y dull hwn ganlyniadau negyddol anfwriadol. Mae ein buddsoddiad mewn modelau ymarfer gyda bronnau yn sicrhau bod ein dysgwyr yn cael profiad ymarferol gyda gwahaniaethau anatomegol, gan helpu i oresgyn unrhyw ofidion sydd ganddynt wrth berfformio CPR ar fenyw. Yn y pen draw, mae’r fenter hon yn ymwneud â chynyddu hyder wrth gyflwyno CPR i bob unigolyn, waeth beth fo’u rhyw.”

Ychwanegodd y tiwtor, Darren Johns: “Un o’r gwersi pwysicaf rydyn ni’n ei ddysgu yw bod gweithdrefnau CPR yn aros yr un peth, waeth beth yw rhywedd y person. Mae’r offer newydd hyn yn helpu dysgwyr i sylweddoli mai’r achub bywyd yw’r prif ffocws bob amser. Drwy sicrhau bod dysgwyr yn teimlo’n gyfforddus ac yn barod mewn unrhyw sefyllfa, gallwn wella cyfraddau goroesi ac annog mwy o bobl i weithredu mewn argyfwng.”

Mae ACT wedi ymrwymo i ddarparu hyfforddiant cymorth cyntaf cynhwysol ac effeithiol, gan arfogi dysgwyr â’r sgiliau a’r hyder i weithredu mewn unrhyw argyfwng, boed hynny yn gyhoeddus neu yn y gweithle. Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn am gyrsiau masnachol ACT fan hyn.

Rhannwch