Yn sgil cystadlaethau WorldSkills llwyddiannus y llynedd, mae Cymru eisoes yn paratoi i gynnal rowndiau terfynol cenedlaethol y digwyddiad am y tro cyntaf yn ddiweddarach eleni.
Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru – sy’n cael ei redeg gan brosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru – yn blatfform i ddysgwyr gystadlu mewn digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol, gan arddangos eu doniau mewn amrywiaeth eang o alwedigaethau o ofal plant i osod trydanol.
Eisoes eleni, gwelodd y cystadlaethau – a gynhaliwyd rhwng 21ain o Ionawr a 13 eg o Chwefror – dros 1,000 o gynrychiolwyr o bob cwr o Gymru yn cystadlu i fod y gorau ar draws 20 sector.
Ymhlith y dalent mae 253 wedi cael eu cydnabod gydag 86 medal aur, 81 arian ac 86 medal efydd wedi’u dyfarnu mewn seremoni yn Abertawe yr wythnos diwethaf (Mawrth 13eg). Gwobrwywyd Canmoliaeth Uchel i 282 o gystadleuwyr eraill.
Gwelodd ACT, prif ddarparwr hyfforddiant Cymru, dri o’i ddysgwyr cyfrifeg – Maddy Groves, Lauren Gunning a Zach Mitchell – yn cipio efydd.
Dywedodd Tiwtor AAT, Nerys Hiscocks:
“Gweithiodd Zach, Lauren a Maddy yn dda iawn gyda’i gilydd. Roedden nhw’n gefnogol ac yn galonogol iawn i’w gilydd a’r timau eraill yn y gystadleuaeth.
“Roedden nhw’n haeddu ennill y wobr Efydd ac rwy’n edrych ymlaen at weld ble y bydd eu sgiliau yn eu tywys yn y dyfodol.”
Yn y seremoni, a gynhaliwyd yn Arena Abertawe, helpodd Gweinidog Sgiliau Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant, i ddosbarthu gwobrau.
Dywedodd: “Mae hyfforddiant galwedigaethol yn agos at fy nghalon ac mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn cynnig cyfle gwych i bobl ifanc brofi eu hunain a datblygu eu sgiliau.
“Mae ein llywodraeth yn blaenoriaethu cefnogi pobl ifanc tuag at ddyfodol llewyrchus ac mae cystadlaethau fel hyn yn eu hannog i wthio ffiniau yn adeiladol.
“Wrth gwrdd ag enillwyr medalau WorldSkills 2024, rydw i wedi gweld sut mae’r cystadlaethau hyn yn hyrwyddo gyrfaoedd – rwy’n hyderus y bydd y dalent newydd hon yr un mor llwyddiannus. Llongyfarchiadau mawr i’r holl gystadleuwyr a phob lwc i’r rhai sy’n cynrychioli Cymru yn genedlaethol a thu hwnt.
“Bydd yn anrhydedd i Gymru groesawu WorldSkills UK ym mis Tachwedd. Edrychaf ymlaen at weld y dalent eithriadol a fydd yn cael ei arddangos.”