16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Cwrs byr

Lefel

Lefel 2

Lleoliad

Ar-lein/F2F

Dyddiad cychwyn

Dyddiadau lluosog ar gael

Cost

PLA
Darganfyddwch mwy

Mae’r dystysgrif hon ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno deall arferion gwaith cynaliadwy ar gyfer swydd benodol. Mae’n arbennig o ddefnyddiol i’r rhai sydd wedi derbyn cyfrifoldeb am gynaliadwyedd o fewn eu sefydliadau.

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio o fewn diwydiannau ar y tir. Byddai’n arbennig o ddefnyddiol i’r dysgwyr hynny sy’n symud ymlaen i rôl  Swyddog/Cydlynydd/Cynghorydd Cynaliadwyedd a’r rhai sydd â rolau sy’n cynnwys cyfrifoldebau am adolygiadau cynaliadwyedd a chynllunio o fewn busnesau a sefydliadau.

I ennill y dystysgrif hon, bydd dysgwyr yn mynychu 4 gweithdy wyneb yn wyneb. Yn ystod y gweithdai hyn, byddant yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o gynaliadwyedd, yr amgylchedd, newid hinsawdd, a sero-net. Ar ôl pob gweithdy, bydd dysgwyr yn cael cyfnod i gwblhau papurau asesu enghreifftiol cyn sefyll eu hasesiadau terfynol.

Mae’r cwrs byr hwn yn gam i fyny o’r dyfarniad ac mae’n berffaith ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio tuag at neu sydd wedi gweithredu System Rheoli Amgylcheddol, fel ISO14001.

Gall buddsoddi mewn arferion gwaith cynaliadwy fod o fudd, nid yn unig i’r amgylchedd, ond hefyd proffidioldeb eich sefydliad. Trwy weithredu arferion cynaliadwy, gallwch arbed costau ar adnoddau, gwella delwedd eich brand, a hyd yn oed ddenu mwy o gwsmeriaid sy’n gwerthfawrogi cynaliadwyedd.

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.

Mae hwn yn gwrs 4 diwrnod, sy’n cael ei gyflwyno mewn ystafell ddosbarth. (130 GLH)

  • Cynaliadwyedd
  • Yr Amgylchedd
  • Newid Hinsawdd
  • Sero Net

Caiff pob asesiad ei oruchwylio mewn ystafell ddosbarth, rhaid i ddysgwyr lwyddo ym mhob un o’r pedair uned orfodol.  Mae asesiadau yn rhai llyfr agored ac mae pob asesiad yn cymryd 6 awr i’w gwblhau. Y marc llwyddo ar gyfer pob asesiad yw 60%. Mae’r asesiad unigol yn cael ei  raddio Llwyddo/Methu a hwn fydd gradd gyffredinol y cymhwyster.

City & Guilds Lefel 2 Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd Gwyrdd (7617-12)
Carfan Modiwl Dyddiad Lleoliad Amser
1 1 12.11.24 Ocean Park House 09.30-16.30
2 14.01.25 Ocean Park House 09.30-16.30
3 11.03.25 Ocean Park House 09.30-16.30
4 07.05.25 Ocean Park House 09.30-16.30

 

Math o gwrs

Cwrs byr

Lefel

Lefel 2

Lleoliad

Ar-lein/F2F

Dyddiad cychwyn

Dyddiadau lluosog ar gael

Cost

PLA
Darganfyddwch mwy