Mae Aminah Ali, sy’n brentis, yn profi manteision uwchsgilio ar ôl cwblhau cymhwyster mewn Rheoli Ynni a Charbon yn ddiweddar gyda’r darparwr hyfforddiant ACT.
Prentis Carbon ac Ynni gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yw Aminah ac mae wedi bod yn rhoi’r hyn a ddysgodd ar waith yn ei swydd o ddydd i ddydd.
Yn ei gwaith, mae Aminah yn rheoli data mesuryddion ynni ar dros 30 o safleoedd unigol; rhywbeth sy’n uniongyrchol berthnasol i’r cwrs, sy’n edrych ar reoli’r defnydd o ynni.
“Roedd y cymhwyster yn help i mi ddysgu mwy am fesur faint o ynni a ddefnyddir ac rwy’n gallu cymhwyso’r wybodaeth yn fy ngwaith o ddydd i ddydd,” esboniodd Aminah.
Yn ogystal, mae gwaith Aminah ar brosiectau lleihau ynni, fel cynlluniau paneli solar a goleuo LED, wedi elwa’n fawr o’r elfen rheoli prosiectau oedd yn rhan o’r cymhwyster.
“Roedd y modiwl hwnnw’n help mawr wrth i mi ddysgu sut i strwythuro fy mhrosiectau a pha gamau i’w cymryd i sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflawni’n gywir,” meddai. “Rwy’n mwynhau rhedeg prosiectau yn fy ngwaith a hoffwn barhau i wneud hynny trwy gydol fy ngyrfa. Roedd dysgu sut i strwythuro a chynnal prosiectau’n llwyddiannus yn ddefnyddiol iawn.”
Roedd y modiwl Excel yn elfen werthfawr arall o’r brentisiaeth.
“Roedd y modiwl yn dda am gynnig triciau a syniadau rydw i’n gallu eu rhoi ar waith yn fy nhaenlenni, gan fy helpu i wneud fy nhasgau o ddydd i ddydd yn fwy effeithiol.”
Ond yr agwedd fwyaf eithriadol o’i phrofiad ar y brentisiaeth oedd yr uned Newid Ymddygiad. Cychwynnodd Aminah a’i thîm yn y cyngor gynllun newid ymddygiad gyda’r nod o ddysgu staff am ymwybyddiaeth o ynni, yn y gwaith a gartref.
“Roedd yr uned newid ymddygiad yn mynd law yn llaw â’r hyn roedden ni’n ceisio’i gyflawni,” meddai. “Rwy’n credu bod hwn yn faes y gall pawb ddysgu amdano a’i weithredu nid yn unig yn y gwaith ond hefyd yn eu bywyd bob dydd.
“Mae cael diwylliant o weithwyr sy’n ymwybodol o faterion ynni yn fuddiol iawn nid yn unig i’r sefydliad ond hefyd i iechyd cyffredinol y blaned ac i helpu i gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer cyrraedd sero net.”
Yn ystod ei phrentisiaeth, cafodd Aminah gefnogaeth gan ACT, yn enwedig ei thiwtor, Michelle Marshall. Roedd Michelle ar gael i ateb cwestiynau neu bryderon ac roedden nhw’n cael sgwrs am y brentisiaeth bob mis.
Roedd gan gyflogwr Aminah ran hanfodol i’w chwarae yn ei llwyddiant hefyd, gyda chyfarfodydd bob pythefnos i drafod hynt y gwaith ac ymateb i unrhyw bryderon.
Erbyn hyn mae Aminah yn cychwyn ar swydd newydd gyffrous fel Swyddog Cydymffurfio Mecanyddol gyda’r cyngor. Mae’n awyddus i gymhwyso’r sgiliau a ddysgodd ar ei phrentisiaeth i’w swydd newydd, gan sicrhau bod effeithlonrwydd ynni’n dal yn ganolog i’w chyfrifoldebau. Mae hefyd yn bwriadu datblygu ei haddysg trwy ddilyn cyrsiau gradd rhan-amser.
Cyfle i ddysgu mwy am gymhwyster Rheoli Ynni a Charbon ACT yma.