Yn y dirwedd broffesiynol sydd ohoni, nid yw’n anghyffredin i weithwyr gael eu hunain mewn rolau rheoli heb dderbyn hyfforddiant ffurfiol. Mae mor gyffredin, mewn gwirionedd, bod enw iddo- ‘rheolwyr damweiniol.’
Yn y DU, credir bod 82% o reolwyr wedi dod i’w rolau heb unrhyw hyfforddiant rheoli nac arweinyddiaeth ffurfiol.
Er y gallent fod wedi rhagori yn eu rolau blaenorol, gall y trosglwyddiad i reolaeth heb hyfforddiant priodol fod yn frawychus. Mae’r diffyg paratoi hwn yn aml yn arwain at anawsterau gyda dynameg tîm, gwneud penderfyniadau, a datrys gwrthdaro.
Yng Nghymru, lle mae nifer uchel o fusnesau bach a chanolig, mae effaith rheolwyr damweiniol yn arbennig o amlwg. Heb hyfforddiant digonol, gall y rheolwyr hyn gyfrannu yn anfwriadol at ostyngiad ym morâl gweithwyr a throsiant llafur cynyddol gydag ymchwil yn dangos taw rheolaeth wael yw prif achos anfodlonrwydd gweithwyr.
Mae ymchwil hyd yn oed wedi dangos bod tua dwy ran o dair o weithwyr naill ai wedi gadael neu’n ystyried gadael rôl oherwydd rheolaeth wael.
Mae’r goblygiadau economaidd ehangach hefyd yn arwyddocaol.
Yn ôl Lumien, gall rheolwyr heb eu hyfforddi arwain at ostyngiad o 16% mewn cynhyrchiant, sy’n cyfateb i ergyd ariannol o dros £5,000 y gweithiwr, yn seiliedig ar gyflog cyfartalog y DU. Amcangyfrifir bod arweinyddiaeth wael yn costio £84 biliwn i fusnesau’r DU bob blwyddyn.
Diolch byth, mae yna gamau ymarferol y gellir eu dilyn i sicrhau bod rheolwyr damweiniol nid yn unig yn cael eu cefnogi yn eu rôl newydd ond yn galluogi iddynt ffynnu fel rheolwyr effeithiol a chadarnhaol – wedi’r cyfan, nid ar chwarae bach y cawsant eu dyrchafu.
Gall hyfforddiant a datblygu – neu uwchsgilio – fod yn gam ymlaen i lawer o reolwyr damweiniol, gan ganiatáu iddynt adeiladu ar eu harbenigedd technegol gyda set sgiliau mwy dymunol sydd wedi seilio ar y tîm. Mae ACT, darparwr hyfforddiant mwyaf Cymru, yn cynnig ystod o gyrsiau rheoli sydd wedi’u cynllunio i arfogi unigolion â’r sgiliau angenrheidiol i arwain yn effeithiol. Mae’r cyrsiau hyn yn cwmpasu meysydd hanfodol fel cyfathrebu, adeiladu tîm, a chynllunio strategol.
Yn ystod 2024 yn unig, mae ACT wedi gweithio gyda dros 5,000 o ddysgwyr a 1,000 o gyflogwyr i uwchsgilio Cymru. O fewn ei weithlu ei hun mae hefyd wedi lansio academi rheoli, gan sicrhau bod pob rheolwr yn derbyn sesiynau hyfforddiant manwl, wyneb yn wyneb ar bynciau fel cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gwytnwch a rheoli straen, a lles gweithwyr.
I fusnesau, mae buddsoddi mewn hyfforddiant rheoli yn arwain at fanteision diriaethol.
Yn ôl ystadegau YouGov, mae’r rhai sy’n darparu hyfforddiant ffurfiol i’w rheolwyr yn gweld, ar gyfartaledd, gynnydd o 23% mewn perfformiad sefydliadol a chynnydd o 32% mewn ymgysylltiad a chynhyrchiant gweithwyr.
Er bod twf rheolwyr damweiniol yn creu heriau, fe ddaw â chyfleoedd hefyd. Trwy feithrin diwylliant o ddysgu, gall busnesau adeiladu gweithlu o reolwyr medrus iawn sydd nid yn unig yn meddu ar wybodaeth fanwl yn eu maes ond hefyd y set sgiliau i ysgogi ac ysbrydoli eu tîm.
I’r rhai sy’n ceisio gwella eu gallu arweinyddiaeth, dewch o hyd i gyrsiau rheoli ACT fan hyn.