Eich Dyfodol.Eich Twf. Eich Gyrfa.
P'un a ydych chi'n ddysgwr uchelgeisiol neu'n fusnes sy’n cyflogi, rydyn ni yma i'ch helpu chi i dyfu.
Beth yw Twf Swyddi Cymru+?
Mae Twf Swyddi Cymru+ yn rhaglen sydd wedi ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru i ddarparu sgiliau, cymwysterau a phrofiad sydd eu hangen ar bobl ifanc 16-19 oed i gael swydd. Yn ACT, rydym yn cyflwyno’r rhaglen drawsnewidiol hon i helpu pobl ifanc i ennill sgiliau, cymwysterau a phrofiad gwaith go iawn tra’n cael eu talu.
y cant
y cant
y cant
Cwestiynau Cyffredin – Twf Swyddi Cymru+
Ydy! Mae Twf Swyddi Cymru+ yn cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru, sy’n golygu nad oes unrhyw gostau i chi gymryd rhan. Darperir yr holl hyfforddiant, cefnogaeth ac adnoddau am ddim, ac rydych hyd yn oed yn derbyn lwfans wythnosol wrth i chi ddysgu. P’un a ydych chi’n ennill cymwysterau, profiad gwaith, neu’n cynllunio eich cam nesaf, bydd dim angen i chi boeni am ffioedd dysgu na thaliadau annisgwyl.
Er nad yw swydd wedi’i warantu, nod terfynol Twf Swyddi Cymru+ yw eich helpu i symud i gyflogaeth, prentisiaeth, neu hyfforddiant pellach. Yn ACT, rydym yn canolbwyntio ar adeiladu eich sgiliau, profiad a hyder, gan eich gwneud yn fwy cyflogadwy ac yn barod ar gyfer y gweithle. Mae llawer o’n dysgwyr yn mynd ymlaen i ennill cyflogaeth hirdymor diolch i’r gefnogaeth maen nhw’n ei dderbyn yn ystod y rhaglen.
Oes! Nid oes dyddiadau tymor penodol ar gyfer Twf Swyddi Cymru+. Mae’n rhedeg trwy gydol y flwyddyn, sy’n golygu y gallwch wneud cais pryd bynnag sy’n addas i chi. P’un a ydych chi’n barod i ddechrau ar unwaith neu angen amser i archwilio’ch opsiynau, mae natur hyblyg y rhaglen yn sicrhau nad ydych chi’n colli allan. Cysylltwch ag ACT a byddwn yn eich helpu i ddechrau’r broses.
Efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer Twf Swyddi Cymru+ os ydych chi’n 16 i 19 oed, yn byw yng Nghymru, ac nad ydych mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant llawn amser ar hyn o bryd. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i gefnogi pobl ifanc sydd angen help i ennill y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen ar gyfer gwaith neu ddysgu pellach. Os nad ydych yn siŵr am eich cymhwysedd, mae ein tîm cyfeillgar yma i’ch helpu a’ch tywys trwy’r broses ymgeisio.
Mae Twf Swyddi Cymru+ yn cynnig ystod eang o gymwysterau cydnabyddedig wedi’u teilwra i’ch diddordebau a’ch nodau gyrfa. Gallwch hyfforddi mewn sectorau fel sgiliau digidol, gwasanaeth cwsmer, adeiladu, iechyd a gofal cymdeithasol, gofal anifeiliaid a mwy. Byddwch hefyd yn gweithio ar sgiliau craidd fel cyfathrebu, mathemateg a llythrennedd digidol i roi hwb i’ch cyflogadwyedd a’ch hyder, gan eich helpu i sefyll allan i gyflogwyr a chymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.
Mae hyd y rhaglen yn dibynnu ar eich nodau unigol, cyflymder dysgu, a’ch llwybr dewisol. Ar gyfartaledd, mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn cwblhau Twf Swyddi Cymru+ o fewn 6 i 12 mis. Fodd bynnag, mae’r rhaglen yn hyblyg ac wedi’i phersonoli, felly gall fod yn fyrrach neu’n hirach yn seiliedig ar eich anghenion. Bydd eich cynghorydd ACT yn gweithio gyda chi i greu cynllun sy’n sicrhau’r canlyniadau gorau.
Mae ACT yn cynnig cefnogaeth barhaus drwy gydol eich taith Twf Swyddi Cymru+. Byddwch yn elwa o fentora un-i-un, cynllun dysgu wedi’i bersonoli, ac arweiniad gyda phethau fel ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliad, a chwilio am swydd yn ogystal â chyfleoedd i gymryd rhan mewn profiadau allgyrsiol. Mae ein staff profiadol yma i gefnogi eich cynnydd bob cam o’r ffordd – boed hynny yn yr ystafell ddosbarth, yn eich lleoliad gwaith, neu wrth i chi gynllunio’ch cam nesaf.
Dim problem! Mae Twf Swyddi Cymru+ wedi’i gynllunio i helpu pobl ifanc fel chi i archwilio gwahanol lwybrau gyrfa. Gyda chefnogaeth gan gynghorwyr a mentoriaid ACT, cewch gyfle i roi cynnig ar wahanol sectorau, ennill sgiliau newydd, a darganfod beth sy’n gweddu orau i chi. P’un a ydych chi’n dechrau o’r dechrau neu’n ansicr, byddwn yn eich helpu i adeiladu llwybr sy’n teimlo’n iawn i chi.
Ydych, un o fanteision mwyaf Twf Swyddi Cymru+ yw ei hyblygrwydd. Mae ACT yn cynnig amrywiaeth o opsiynau hyfforddi ar draws diwydiannau gan gynnwys gwallt a harddwch, sgiliau digidol, iechyd a gofal cymdeithasol, adeiladu, sgiliau digidol, gofal anifeiliaid a cherbydau modur. Byddwch yn cael eich cefnogi i ddewis sector sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau a’ch nodau, gan sicrhau bod eich hyfforddiant yn ddiddorol ac yn canolbwyntio ar yrfa.
Mewn llawer o achosion, ydych, ond mae’n dibynnu ar amgylchiadau unigol. Gan fod Twf Swyddi Cymru+ yn cynnwys lwfans hyfforddi, efallai y bydd rhai budd-daliadau yn cael eu heffeithio. Gall ein tîm yn ACT ddarparu arweiniad a help i gael mynediad at gyngor arbenigol i wneud yn siŵr eich bod yn deall beth mae gennych hawl iddo a sut y gallai gael ei effeithio tra byddwch ar y rhaglen.