16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Blog

Mae Cymru yn bell ar ei ffordd i’w nod o gyrraedd sero net erbyn 2030 gyda Chyllideb Garbon 2026 yn nodi ein pwynt gwirio critigol nesaf. I fusnesau, mae’r nod hwn yn creu heriau ond hefyd cyfleoedd, wrth i ni i gyd geisio lleihau allyriadau, addasu gweithrediadau, a sicrhau bod ein gweithwyr wedi’u paratoi i addasu i’r newidiadau hyn.

Mae sgiliau gwyrdd yn allweddol i gyflawni nod sero net Cymru yn llwyddiannus. Mewn gwirionedd, pan roddwyd y cynllun gweithredu Sero Net ar waith, disgrifiwyd uwchsgilio fel ‘galluogwr allweddol’ y trawsnewidiad i economi sero net.

Beth bynnag fo’r diwydiant, mae’r galw am wybodaeth cynaliadwyedd yn cynyddu. Mae cyflogwyr sy’n buddsoddi yn yr hyfforddiant hwn nid yn unig yn cefnogi’r agenda carbon cenedlaethol, maen nhw hefyd yn magu gwytnwch, yn gwella enw da, ac yn datgloi effeithlonrwydd newydd yn y ffordd y maen nhw’n gweithio o ddydd i ddydd.

Yn ymarferol, mae sgiliau gwyrdd yn galluogi gweithwyr i nodi a rhoi camau ar waith sy’n lleihau’r defnydd o ynni, lleihau gwastraff, ac yn gwella effeithlonrwydd gan ddarparu manteision amgylcheddol ac ariannol. O weithwyr proffesiynol caffael yn dewis cyflenwyr cynaliadwy i reolwyr sy’n ymgorffori meini prawf amgylcheddol yn eu penderfyniadau, mae gan bob rôl ran i’w chwarae.

Mae busnesau sy’n meithrin y sgiliau hyn nid yn unig yn lleihau eu hôl troed carbon ond hefyd yn rhoi hwb i gynhyrchiant, cryfhau cadwyni cyflenwi, ac yn cwrdd â galw cynyddol cwsmeriaid am weithrediadau cynaliadwy.

Mae ACT, prif ddarparwr hyfforddiant Cymru, yn helpu cyflogwyr i gyflawni eu nodau sero net drwy amrywiaeth o gymwysterau gwyrdd achrededig. Mae llawer o’r cyrsiau yn addas i unrhyw weithiwr, waeth beth fo’u rôl a’u sector, a byddant yn eu helpu i ddeall, gweithredu a hyrwyddo arferion cynaliadwy yn y gweithle.

Mae cymwysterau uwch yn addas i’r rhai sy’n gyfrifol am reolaeth amgylcheddol ac sy’n awyddus i weithredu gwell strategaethau effeithlonrwydd yn eu sefydliad.

Mae ACT yn darparu cyfres o gymwysterau achrededig ISEP, yn amrywio o gyrsiau byr undydd i dystysgrifau uwch. Os nad ydych chi’n siŵr pa opsiwn fyddai’n addas ar gyfer eich tîm, dyma grynodeb o bob cymhwyster:

Tystysgrif Sylfaen ISEP mewn Rheolaeth Amgylcheddol (Lefel 3)

Mae’r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sy’n newydd i gynaliadwyedd, ac mae’n arwain yn uniongyrchol at Aelodaeth Gysylltiedig ISEP.

Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen o wybodaeth amgylcheddol i chi adeiladu arno. Gan gwmpasu ystod eang o egwyddorion, bydd y cwrs yn rhoi dealltwriaeth i ddysgwyr o ehangder yr agenda cynaliadwyedd, a’r offer rheoli sydd eu hangen arnynt wrth weithio yn y maes.

Dewch o hyd i ragor o fanylion fan hyn.

Tystysgrif ISEP mewn Rheolaeth Amgylcheddol (Lefel 5)

Mae’r cwrs hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn sefydliadau ar lefel weithredol ac yn dilyn llwybr gyrfa ym maes yr amgylchedd a chynaliadwyedd. Byddwch yn archwilio goblygiadau tueddiadau byd-eang i’r amgylchedd, yn gallu creu ac esbonio modelau busnes cynaliadwy, ac yn dadansoddi’n feirniadol y data sy’n llywio penderfyniadau.

Dewch o hyd i ragor o fanylion fan hyn.

Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol ISEP i Reolwyr (Lefel 3)

Bwriad y cwrs deuddydd hwn yw cefnogi rheolwyr a goruchwylwyr o unrhyw ddiwydiant neu sector i ddeall goblygiadau strategol a gweithredol cynaliadwyedd amgylcheddol ar eu cyfer hwy, eu timau a’u hadrannau.

Mae’n galluogi rheolwyr i gyfrannu at gynaliadwyedd amgylcheddol gwell yn eu sefydliadau.

Dewch o hyd i ragor o fanylion fan hyn.

Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol i’r Gweithlu (Lefel 2)

Mae’r cwrs undydd hwn yn rhoi cyflwyniad ymarferol i ddysgwyr i gynaliadwyedd amgylcheddol, gan sicrhau bod ganddynt y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r cymhelliant i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu sefydliad.

Mae’r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn unrhyw rôl swydd ym mhob sector, er mwyn sicrhau bod cynaliadwyedd amgylcheddol wedi’i ymgorffori ym mhob rôl swydd cwmni.

Dewch o hyd i ragor o fanylion fan hyn.

Yn ogystal â chymwysterau achrededig ISEP, mae ACT hefyd yn darparu cwrs i bobl mewn rolau rheoli ynni neu ar gyfer gweithwyr proffesiynol cyllid a chyfleusterau sy’n gyfrifol am gaffael cynaliadwy neu ddefnydd ynni yn eu sefydliad.

Rheoli Ynni a Charbon Lefel 3

Mae’r cymhwyster hwn yn edrych ar y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer rheoli’r defnydd o ynni ac allyriadau carbon o fewn sefydliad.

Mae’r cwrs wedi’i rannu yn fodiwlau gorfodol fel ‘iechyd a diogelwch’ a ‘newid ymddygiad’, a modiwlau dewisol mewn pynciau fel ‘rheoli gwastraff’ a ‘chaffael ynni’.

Dewch o hyd i ragor o fanylion fan hyn.

Wrth i Gymru symud tuag at ei Chyllideb Garbon 2026, mae’n bwysig ein bod yn cydnabod bod adeiladu economi wyrddach yn dibynnu ar weithlu blaengar a medrus. Bydd busnesau sy’n blaenoriaethu hyfforddiant cynaliadwyedd nid yn unig yn bodloni gofynion cydymffurfio ond hefyd yn sefydlu eu hunain fel arweinwyr mewn arloesi a thwf cyfrifol.

Rhannwch