16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Dysgwyr

Mae pump o ddysgwyr a hyfforddir gan ddau ddarparwr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru yn paratoi i gystadlu yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK, a gynhelir yng Nghymru am y tro cyntaf o 25 i 28 Tachwedd.

Bydd dros 400 o brentisiaid a dysgwyr dawnus o 47 o ddisgyblaethau – o beirianneg, technolegau digidol ac iechyd i letygarwch, adeiladu a’r diwydiannau creadigol – yn dod ynghyd mewn pum lleoliad ar gyfer prif gystadleuaeth sgiliau’r Deyrnas Unedig

Gallai rhai sy’n llwyddo o dan bwysau gael eu dewis i gynrychioli’r Deyrnas Unedig ar y llwyfan rhyngwladol yn Japan yn 2028.

Bydd cynrychiolaeth gref o Gymru, gyda 120 o bobl ifanc o bob cwr o’r wlad wedi ennill eu lle ar ôl rhagori yn y rowndiau rhagbrofol. Bydd 29% o gystadleuwyr y rowndiau terfynol cenedlaethol yn dod o Gymru – hyd yn oed fwy na’r un o bob pedwar a gafwyd y llynedd.

Ymhlith y cystadleuwyr o Gymru mae Maddie Groves, 20 oed, a Lauren Gunning, 30 oed, prentisiaid AAT gydag ACT o Gaerdydd, a fydd yn cystadlu yn rownd derfynol tîm y Technegwyr Cyfrifeg.

Mae Maddie, sy’n gweithio i Green and Co, Cwmbran a Lauren, swyddog taith dysgwyr gydag ACT sy’n cefnogi prentisiaid AAT, yn gweithio tuag at Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Cyfrifeg Broffesiynol.

Byddant yn cystadlu dros ddau ddiwrnod yn yr Atriwm ym Mhrifysgol De Cymru, Caerdydd lle byddant yn cael briff yn cynnwys gwneud cyflwyniad a chyflawni tasg gyfrifeg.

Mae Lauren eisoes wedi cwblhau prentisiaethau AAT Lefelau 2 a 3 gan fod arni eisiau cael y wybodaeth i roi’r gefnogaeth orau i brentisiaid ar eu taith ddysgu.

Enillodd prentisiaid ACT fedal efydd yn rownd derfynol Technegwyr Cyfrifeg y llynedd ac mae’r tiwtor cyfrifeg Nerys Hiscocks o’r farn y gallai Maddie a Lauren ennill medal aur eleni.

“Dw i’n meddwl y gwnân nhw’n dda iawn achos mae ganddyn nhw berthynas hyfryd ac maen nhw’n gweithio’n dda gyda’i gilydd,” meddai Nerys.

“Maen nhw’n ategu ei gilydd ac dw i’n hollol grediniol y gallan nhw ennill y fedal aur.”

Mae dysgwyr eraill o Gymru’n cael eu hannog i gychwyn eu taith i Rowndiau Terfynol WorldSkills UK 2026 trwy gystadlu yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru. Gellir cofrestru i wneud hynny i 5 Rhagfyr. Gwybodaeth yma.

Mae Paul Evans, cyfarwyddwr prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru a Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, yn annog rhagor o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith a’u prentisiaid i gofrestru eleni.

“Dymunwn bob llwyddiant i’r pum dysgwr o ACT ac Itec (Sgiliau a Chyflogaeth) yn y rowndiau terfynol,” meddai Lisa. “Maen nhw’n batrwm ar gyfer y sector dysgu seiliedig ar waith, ac yn ysbrydoli rhagor o ddysgwyr, prentisiaid, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant Cymru i gydnabod gwerth a manteision cystadlaethau sgiliau cenedlaethol, Ewropeaidd a byd-eang.”

Meddai Paul: “Mae darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu prentisiaid medrus ledled Cymru. Mae llawer o’u dysgwyr yn mynd ymlaen i lwyddo yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK ac, yn aml, yn cychwyn eu taith trwy Gystadleuaeth Sgiliau Cymru.

“Rwy’n annog rhagor o ddarparwyr a phrentisiaid i gymryd rhan eleni gan fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd y mae’r cystadlaethau hyn yn eu cynnig.”

Rhannwch