16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Ym mis Hydref 2016 daethom yn bartner i Goleg Caerdydd a’r Fro (CAVC).

Rydym yn hynod gyffrous i ymuno â Grŵp CAVC oherwydd, gyda’n gilydd, rydym yn wydn ac yn medru cynnal y gallu i barhau i fuddsoddi, datblygu darpariaeth, darparu mwy a chynyddu cyfleoedd i gefnogi unigolion, cymunedau a chyflogwyr ar draws y rhanbarth yn y ffordd orau posib.

Ers 2016, rydym wedi bod yn gweithio gyda’n gilydd i rannu data, yn cynllunio ar y cyd ar gyfer anghenion y dyfodol ac yn chwilio am fylchau mewn sgiliau sydd angen mynd i’r afael â nhw.

Rydym yn parhau i weithredu o dan yr un brand, yr un hunaniaeth a strwythur rheoli ond rydym yn cael ein llywodraethu gan Fwrdd Cyfarwyddwyr mwy sydd â gweledigaeth glir i sicrhau dyfodol ein sector.

 

Cardiff and Vale College, City Centre Campus

Coleg Caerdydd a'r Fro

Campws Canol y Ddinas

Pwy yw Grŵp CCAF?

Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro yw’r mwyaf yng Nghymru ac mae ymhlith y 5 coleg uchaf yn y DU gyda throsiant o £100m a mwy na 30,000 o ddysgwyr yn cofrestru bob blwyddynFel y darparwr mwyaf ar brentisiaethau a hyfforddiant sgiliau yng Nghymru, mae’r Grŵp yn sbarduno cefnogaeth i bobl ifanc, cymunedau a busnesau ledled Prif-ddinas Ranbarth Caerdydd a thu hwnt.

Mae teulu CCAF yn cynnwys Coleg Caerdydd a’r Fro, ACT ac ALS.

CCAF

Coleg Caerdydd a’r Fro yw un o’r colegau mwyaf yn y DU, yn darparu addysg a hyfforddiant o ansawdd dda yn Rhanbarth Prifddinas Cymru. Mae gennym fwy na 30,000 o ddysgwyr bob blwyddyn ar draws cyrsiau coleg, cymwysterau prifysgol a rhaglenni prentisiaeth llawn amser a rhan amser, ynghyd â’r ddarpariaeth o hyfforddiant pwrpasol i gyflogwyr.

Rydym yn datblygu pobl fedrus a chyflogadwy – gyda rhai o’r cyfraddau llwyddo gorau i fyfyrwyr yn y sector a ffocws ar brofiadau sy’n sicrhau bod ein dysgwyr yn amlygu eu hunain ac yn gwneud cynnydd.

ACT

Mae ACT yn darparu rhaglenni a chyfleoedd dysgu rhagorol sy’n helpu pobl i gyrraedd eu llawn botensial. O Twf Swyddi Cymru+, Prentisiaethau a Phrentisiaethau Uwch ar draws 30 o wahanol sectorau, i hyfforddiant cyflogadwyedd a chyrsiau byr ar gyfer busnes.
acttraining.org.uk

ALS

Mae ALS Training yn ddarparwr hyfforddiant, dysgu a datblygu blaenllaw gyda thros 1,300 o Brentisiaid yn dysgu bob wythnos. Mae ALS yn cynllunio, yn darparu ac yn gwerthuso ystod gynhwysfawr o ddulliau hyfforddi a datblygu i wasanaethu cyflogwyr a gweithwyr a’u hanghenion unigol.
alstraining.org.uk