16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Mae ein Cynrychiolydd Dysgwr, Chloe Mundell, yn gweithio i sicrhau fod gan bob dysgwr lais er mwyn darparu adborth i Reolwyr i gynorthwyo gwelliant.

Chloe Mundell, Cynrychiolydd Dysgwyr ACT

Yn ACT, mae boddhad dysgwyr yn bwysig iawn, ac rydym yn awyddus i sicrhau bod pob un o’n dysgwyr nid yn unig yn hapus â’r gwasanaeth hyfforddi rydym yn ei ddarparu, ond wrth eu bodd ag ef. Credwn ei bod yn bwysig iddynt rannu eu barn, rhoi adborth a gwneud awgrymiadau er mwyn sicrhau bod pawb yn cael profiad o’r safon uchaf o ddechrau i ddiwedd eu taith ddysgu.

Mae’n bwysig bod dysgwyr yn manteisio i’r eithaf ar eu profiad, ac os oes yna rywbeth y maent yn teimlo y gallwn wneud i helpu, yna rwyf am wybod amdano. Rwyf am i ddysgwyr deimlo y gallant ddarparu adborth a gwneud awgrymiadau ac y byddwn yn gwrando ac yn gwneud popeth y gallwn i ddarparu’r profiad gorau.

Os oes gennych unrhyw adborth, neu os hoffech sgwrsio â Chloe am eich profiad gydag ACT, e-bostiwch hi ar feedback@acttraining.org.uk.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch adborth ar Twitter @ACTLearnerVoice.