16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Rydym yn falch iawn mai arwr rygbi Cymru, Jonathan Davies OBE, yw ein Llysgennad Sgiliau.

Jonathan Davies, OBE

Jonathan Davies, OBE

Llysgennad Sgiliau ACT

Jonathan Davies, OBE

Jonathan Davies, OBE

Jonathan Davies, OBE

Jonathan Davies, OBE

Dyw hi ddim yn adnabyddus iawn fod Jonathan Davies wedi gadael yr ysgol gyda dim ond dau Lefel O a dechreuodd ar ei fywyd gwaith fel Prentis paenitio a phapuro. Bellach, yn ei rôl fel Llysgennad Sgiliau ACT, mae’n helpu eraill i bontio’r bwlch i hyfforddiant a chyflogaeth.

Dywedodd Jonathan Davies OBE:

Byddwn yn annog unrhyw gyflogwyr yng Nghymru i fanteisio ar yr ystod o wasanaethau a ariennir yn llawn ac sydd ar gael drwy ACT. Yn y cyfnod economaidd hyn, nid yn unig yw hi’n anodd i bobl ifanc gael gwaith, ond gall hefyd fod yn anodd i gyflogwyr fforddio i recriwtio’r staff gorau a gwella sgiliau’r gweithlu presennol i sicrhau fod y busnes yn parhau yn gystadleuol.

“ACT yw darparwr Prentisiaethau a hyfforddiant mwyaf Cymru ac mae yno gyfoeth o wasanaethau y gall cyflogwyr yma yng Nghymru eu defnyddio am ddim. O brofiad gwaith i ddarparu’r Prentisiaid gorau i chi, a hyfforddiant i wella sgiliau staff presennol sydd wedi ei ariannu’n llawn, mae gan ACT wasanaeth ar gyfer pob busnes, mawr neu fach, ac mae’n cynllunio ei holl wasanaethau i gwrdd ag anghenion y cyflogwr. “