Ar ôl brwydro i ffynnu o fewn y system addysg draddodiadol, a theimlo wedi ymddieithrio, ymunodd Callum Fennell â Chartref Gofal Preswyl Bethany fel Gofalwr yn 16 mlwydd oed. Ers iddo ddechrau gweithio yn y cartref gofal yng Nghas-gwent, mae hyder Callum a’i ragolygon gyrfa wedi cynyddu’n aruthrol.
“Pan oeddwn i’n yr ysgol roeddwn i’n ei gweld hi’n anodd iawn delio gyda’r ddisgyblaeth a oedd ar waith. Cefais drafferth gyda’r athrawon gan nad oeddent yn fy neall ac effeithiodd hyn ar fy ngraddau. Mae’r llwybr prentisiaeth yn llawer gwell i mi.”
Bellach yn 18 mlwydd oed, mae Callum yn Gynorthwyydd Gofal ac yn gwneud ei gymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 gydag ACT. Yn ei rôl, mae’n sicrhau bod yr holl breswylwyr yn cael y gofal a’r cymorth un-i-un maen nhw eu hangen ac yn eu cynorthwyo gydag unrhyw dasgau ychwanegol maen nhw angen cymorth gyda nhw.
Rwyf wrth fy modd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau’r bobl rwy’n eu cefnogi, gan eu gwneud yn hapus, a rhoi sicrwydd a llais iddyn nhw gael eu clywed. Mae fy swydd yn rhoi boddhad mawr ac rwyf wrth fy modd yn clywed y preswylwyr yn galw fy enw ac yn gwenu pan fyddaf yn dechrau fy shifft gan eu bod yn hapus i’m gweld. Rwy’n cael boddhad swydd go iawn pan mae’r preswylwyr yn hapus – mae hyn yn rhoi sicrwydd i mi fy mod wedi gwneud gwahaniaeth i’w bywydau’r diwrnod hwnnw.
Trwy ddysgu’n seiliedig ar waith, mae Callum yn ennill cyflog wrth ennill profiad ymarferol hanfodol yn y swydd ac mae’n darganfod ystod eang o sgiliau. O’r diwedd mae’n cydnabod ei alluoedd ei hun a gall weld drosto’i hun yr effaith gadarnhaol mae ei rôl yn ei chael ar y rhai o’i gwmpas. Mae gwaith gofal yn cynnig boddhad swydd enfawr ac mae Callum yn darparu gofal a chymorth hanfodol i rai o aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas.
Mae’r DU yn boblogaeth sy’n heneiddio gydag amcangyfrif o 15 miliwn o unigolion dros 60 mlwydd oed. O’r herwydd, mae galw am ofal o safon i’r henoed a gyda hynny, mae llawer o gyfleoedd gyrfa. Yn ogystal â dysgu llu o sgiliau ymarferol yn y swydd, mae cymhwyster prentisiaeth Callum yn ei helpu i ddatblygu ei yrfa yn y Sector Gofal tra’n derbyn cefnogaeth amhrisiadwy ar hyd y ffordd.
Dw i wir yn teimlo fy mod wedi datblygu fel person ers dechrau fy nghymhwyster. Rwyf wedi dysgu sgiliau newydd ac rwy’n fwy na pharod i ofyn am help neu gyngor pan fydd ei angen arnaf. Os ydw i’n cael trafferth, gallaf siarad â’m haseswr yn ACT a bydd hi’n fy nghefnogi ac yn cynnig datrysiadau rwy’n eu deall. Mae fy nghyflogwr hefyd wedi rhoi cyfle i mi dyfu o fewn fy rôl. Rwy’n gweithio mewn amgylchedd tîm ac mae fy nghyfoedion bob amser yn gofalu amdanaf fi. Maen nhw’n fy annog drwy bob her rwy’n ei hwynebu ac maen nhw yno i’m cefnogi.”
Ar ôl dechrau anodd yn yr ysgol, mae Callum bellach yn gyffrous am ei ragolygon gyrfa ac yn teimlo mai dim ond y dechrau iddo yw ei gymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2. Gyda’i lygaid yn gadarn ar y dyfodol, mae Callum yn gwybod yn union i ble mae’n mynd!
“Mae’r adborth rydw i wedi’i dderbyn gan breswylwyr, aelodau o’r teulu, gweithwyr proffesiynol allanol, fy nhîm a’r tîm rheoli i gyd wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae hyn yn gwneud i mi deimlo mor falch a chyffrous am fy nyfodol yn y Sector Gofal. Mae fy rheolwr eisoes wedi gofyn i mi ddechrau Lefel 3 ar ôl i mi gwblhau Lefel 2. Mae hyn wedi bod yn hwb mawr i fy hyder gan fy mod yn gwybod y gall weld y cynnydd rydw i’n ei wneud. Fy nod yw dod yn Feddygwr yn y pen draw. Nawr fy mod i’n 18 mlwydd oed gallaf ddechrau ar yr hyfforddiant gofynnol a fydd yn fy ngalluogi i roi meddyginiaeth, arwain tîm, delio ag argyfyngau a chysylltu â gweithwyr proffesiynol allanol. Rwy’n fodlon gweithio’n galed ac rwy’n hyderus y byddaf yn cyrraedd y nod gyrfa hwn. Mae ymddiriedaeth fy nghyflogwyr ynof fi wedi fy ngwneud yn benderfynol o symud ymlaen i ble rydw i nawr. Pe na bawn i wedi cael y cyfle hwn i weithio pan oeddwn i’n 16 mlwydd oed, dydw id dim yn gwybod ble byddwn i heddiw.”