16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 2

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Ymgeisiwch nawr

Ynglŷn â’r cwrs hwn:

Bydd ein Prentisiaeth GChDDP Lefel 2 yn helpu i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd galwedigaethol dysgwyr mewn lleoliadau Gofal Plant.

Nod y Brentisiaeth hon yw paratoi dysgwyr i weithio mewn lleoliadau Blynyddoedd Cynnar. Ar y lefel hon, cefnogir ymarferwyr i ddarparu gweithgareddau a chyfleoedd cyffrous i blant, gan hyrwyddo chwarae, dysgu a datblygiad.

Mae’r Brentisiaeth hon yn addas ar gyfer pobl mewn lleoliadau gofal plant rheoledig, sy’n gweithio gyda theuluoedd a phlant dan 8 oed, gwasanaethau plant y GIG i’r rhai sy’n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0-19 a dysgwyr sydd wedi ennill cymhwyster Lefel 1 neu nad oes ganddynt wybodaeth flaenorol am y sectorau gofal, chwarae, dysgu a datblygu plant. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau iechyd plant.

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes). Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.

Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster. Gall dysgwyr llwyddiannus symud ymlaen at Brentisiaeth GChDDP Lefel 3. Mae cyfleoedd cyflogaeth pellach yn cynnwys:

· Cynorthwyydd Meithrin

· Cynorthwyydd Grŵp Chwarae

· Gweithiwr Cymorth i Blant

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

· yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)

· yn byw yng Nghymru · ddim mewn addysg llawn amser

· ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru

· Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:

· fod yn gweithio am o leiaf 16 awr

· gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster

· ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd

· gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 2

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Ymgeisiwch nawr