16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 4

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Ymgeisiwch nawr

Ynglŷn â’r cwrs hwn:

Mae ein Prentisiaeth Ymarfer Broffesiynol GChDDP Lefel 4 yn galluogi dysgwyr i ddatblygu a dangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth uwch yng nghyd-destun lleoliadau gofal, chwarae, dysgu a datblygu plant.

 

Mae’r Brentisiaeth hon yn bennaf ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant rheoledig gyda theuluoedd a phlant dan 8 oed a gwasanaethau plant ar gyfer pobl sy’n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0-19. Datblygwyd y cymhwyster hwn mewn cydweithrediad agos â rhanddeiliaid allweddol yn y sector, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Mae’r Brentisiaeth hon yn seiliedig ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth ac ymarfer dysgwyr. Fe’i cynlluniwyd ar gyfer dysgwyr mewn dysgu seiliedig ar waith, addysg bellach ac addysg uwch. Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes). Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm

cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell. Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams), yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol. Mae cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol yn cynnwys:

· Ymarferwyr Gofal Plant sy’n gweithio ar lefel Uwch

· Gweithwyr gofal plant sydd â chymhwyster GCDDP neu etifeddiaeth

· Ymarferwyr Meithrin, Ymarferwyr y GIG, Staff Ysgol yn y Cyfnod Sylfaen

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:·

yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)

· yn byw yng Nghymru

· ddim mewn addysg llawn amser

· ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru

· Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:

· fod yn gweithio am o leiaf 16 awr

· gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster

· working in a role that is relevant to the qualification

· employed for at least 51% of your contracted hours in Wales

· ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd · gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster

· cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 4

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Ymgeisiwch nawr