Ynglŷn â’r cwrs hwn:
Mae ein Prentisiaeth Cefnogi Addysgu a Dysgu Lefel 2 yn rhoi dealltwriaeth i bob dysgwr o’u rolau a’u cyfrifoldebau, gan wella eu proffesiynoldeb, eu gwybodaeth a’u hyder yn eu gwaith gyda phlant a chydweithwyr.
Bydd ymarferwyr yn ennill y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio’n effeithiol gyda’r athro i gefnogi dysgu, lles, gofal ac ymddygiad disgyblion.
Mae’n datblygu sgiliau a gwybodaeth broffesiynol a thechnegol, a dealltwriaeth o bwysigrwydd perthnasoedd cadarnhaol mewn ysgol.
Mae’r rhaglen hon wedi’i hanelu at staff cymorth dysgu sy’n gweithio o dan oruchwyliaeth yr athro dosbarth, gan ddilyn y cynlluniau gwersi a’u cyfarwyddyd o ddydd i ddydd sy’n gosod y fframwaith y mae’r unigolyn yn gweithio oddi tano. Efallai y byddant hefyd yn gyfrifol am dynnu grwpiau bach yn ôl neu helpu i redeg cynlluniau megis Read Write Inc.
Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).
Mae enghreifftiau o unedau gorfodol yn cynnwys:
- Datblygiad Plant a Phobl Ifanc
- Cefnogi Gweithgareddau Dysgu
- Diogelu lles Plant a Phobl ifanc
Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.
Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.
Ar ôl cofrestru, dyrennir aseswr i ddysgwyr hefyd. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn ei weithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) bob mis, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.
Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn, gall dysgwyr llwyddiannus symud ymlaen i’n Prentisiaeth Cefnogi Addysgu a Dysgu Lefel 3. Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster.
Mae cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol yn cynnwys:
- Cynorthwyydd Addysgu/Ystafell Ddosbarth/Cymorth Dysgu
- Cynorthwyydd Cefnogaeth Arbenigol
- Cynorthwyydd Cymorth Llythrennedd Emosiynol (ELSA)
- Cynorthwyydd Cymorth Bugeiliol/Lles
Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:
- yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
- yn byw yng Nghymru
- ddim mewn addysg llawn amser
- ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
- Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma
Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:
- fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
- gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
- ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
- gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
- cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru