16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 3

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Ymgeisiwch nawr

Ynglŷn â’r cwrs hwn:

Bydd ein Prentisiaeth Plant a Phobl Ifanc Lefel 3 yn galluogi ac yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau i weithio’n effeithiol yn y Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol i blant.

 

Mae ein cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PaPhI) Lefel 3 yn addas ar gyfer pobl sy’n gweithredu’n fwy annibynnol, gan oruchwylio plant, asesu eu datblygiad ac asesu risg dyddiol. Mae’r cwrs hwn yn asesu ac yn datblygu gwybodaeth a sgiliau pobl sy’n gweithio o fewn gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol plant. Er enghraifft, gofal preswyl, gweithwyr cynnal plant neu ymarferwyr plant y GIG. Mae’r cymhwyster hwn yn cadarnhau cymhwysedd yn y meysydd hyn ac fe’i hystyrir yn gymhwyster gofynnol (i bob ymarferydd newydd) er mwyn bodloni gofynion cofrestru a rheoleiddio’r sector.

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).

 

Mae’r cymhwyster wedi’i rannu’n ddwy elfen: y cymhwyster Craidd, sy’n datblygu ac asesu eich gwybodaeth a’r cymhwyster Ymarfer, sy’n canolbwyntio ar ac yn asesu eich gallu ymarferol. Efallai eich bod eisoes wedi cwblhau’r elfen hon. Bydd y cymhwyster Craidd yn cymryd hyd at 6 mis i’w gwblhau. Bydd angen arsylwadau i gadarnhau cymhwysedd a datblygu sgiliau. Bydd y sesiynau hyn yn para tua 2 awr bob mis

Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster. Mae cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol yn cynnwys:

· Ymarferydd Meithrin ·

Ymarferydd Grŵp Chwarae

· Gweithiwr Cymorth Plant y GIG

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

· yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)

· yn byw yng Nghymru

· ddim mewn addysg llawn amser

· ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru

· Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:

· fod yn gweithio am o leiaf 16 awr

· gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster · ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd

· gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster

· cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 3

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Ymgeisiwch nawr