Ynglŷn â’r cwrs hwn:
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu’n bennaf at bobl sy’n dymuno datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau hanfodol i ddod yn swyddogion cymorth cyntaf pediatrig ond mae hefyd yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd â chyfrifoldeb dros ofalu am fabanod a phlant.
Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn rhoi sgiliau sylfaenol i gyfranogwyr reoli argyfyngau sy’n peryglu bywyd, yn ogystal â sut i reoli salwch ac anafiadau pediatrig cyffredin. Efallai eich bod eisoes mewn swydd, ond nid oes yn rhaid i chi fod mewn cyflogaeth er mwyn cyflawni’r un uned orfodol sy’n ofynnol er mwyn ennill y cymhwyster hwn.