16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Prentisiaeth Uwch

Lefel

Lefel 4

Lleoliad

Dysgu seiliedig ar waith

Dyddiad cychwyn

Dyddiadau cychwyn hyblyg

Cost

Ariannu’n llawn
Darganfyddwch mwy

Ynglŷn â’r cwrs hwn: 

Mae ein Prentisiaeth Cyngor ac Arweiniad Lefel 4 yn gymhwyster galwedigaethol o ansawdd uchel sydd wedi’i anelu at ymarferwyr profiadol sy’n gweithio gyda chleientiaid neu staff mewnol er mwyn darparu gwasanaethau Cyngor ac Arweiniad ar sail broffesiynol neu wirfoddol. 

Mae’r Brentisiaeth hon yn addas ar gyfer ymarferwyr sy’n awyddus i ddatblygu a mireinio eu sgiliau wrth roi cyngor ac arweiniad mewn amrywiaeth o gyd-destunau yn cynnwys cyfryngu, eiriolaeth, cyngor gyrfaoedd, hyfforddiant, rheoli, mentora a chefnogi defnyddwyr gwasanaeth. 

Mae’n ddelfrydol i bobl sy’n darparu gwybodaeth ffeithiol, gyfredol a diduedd i gleientiaid/cydweithwyr ac sy’n cyflwyno syniadau mewn modd eglur er mwyn iddynt eu hystyried. Dylent fod yn gweithio’n barhaus gyda’u cleientiaid i’w cefnogi i weithredu mewn modd priodol a dylent fonitro ac adolygu canlyniadau. 

Efallai y bydd gan ymarferwyr gyfrifoldebau goruchwylio, rheoli neu hyfforddi hefyd, a gallent fod yn ymwneud â chreu neu ddatblygu adnoddau hyfforddi a byddant yn rhwydweithio â sefydliadau eraill fel rhan o’u rôl. 

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes). 

Mae’r unedau gorfodol yn cynnwys: 

  • Datblygu rhyngweithio â chleientiaid cyngor ac arweiniad 
  • Rheoli llwyth achos personol 
  • Gwerthuso a datblygu eich cyfraniad eich hun i’r gwasanaeth 
  • Gweithio mewn rhwydweithiau 
  • Deall pwysigrwydd deddfwriaeth a gweithdrefnau 

Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun

 

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell. 

Ar ôl cofrestru, dyrennir aseswr i’r dysgwyr hefyd. Drwy gydol y cymhwyster, bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn ei weithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) bob mis, i gefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau. 

Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster . 

Mae cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol yn cynnwys: 

  • Cynghorydd / Ymgynghorydd Dysgu a Datblygiad 
  • Swyddog datblygu hyfforddiant 
  • Goruchwyliwr canolfannau dysgu 
  • Mentor 
  • Hyfforddwr unigolion neu grwpiau 
  • Rheolwr neu oruchwyliwr 
  • Asesydd a Gwiriwr 

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod: 

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf) 
  • yn byw yng Nghymru 
  • ddim mewn addysg llawn amser 
  • ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru 
  • Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd: 

  • fod yn gweithio am o leiaf 16 awr 
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster 
  • ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd 
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster 
  • cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru 

Math o gwrs

Prentisiaeth Uwch

Lefel

Lefel 4

Lleoliad

Dysgu seiliedig ar waith

Dyddiad cychwyn

Dyddiadau cychwyn hyblyg

Cost

Ariannu’n llawn
Darganfyddwch mwy