16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 2

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy

Ynglŷn â’r cwrs hwn

Mae ein Prentisiaeth Cymorth ar gyfer Rhaglenni Digidol yn cwmpasu nifer o agweddau allweddol technoleg ddigidol mewn lleoliadau busnes. Mae’n ddelfrydol ar gyfer y dysgwyr hynny sy’n darparu cymorth gweinyddiaeth ddigidol i dimoedd.

Mae’r rhaglen hon yn addas ar gyfer ymgeiswyr sy’n gweithio mewn swyddfeydd digidol. Efallai eu bod yn cefnogi tîm sy’n gweithio’n ddigidol, gan ddefnyddio systemau cwmwl fel Microsoft Office 365 neu Google for Business.

Efallai bod yr ymgeisydd yn defnyddio systemau cyfredol ond hoffai gynyddu ei ymwybyddiaeth o dechnoleg er mwyn cefnogi eraill a’u busnes i symud ymlaen mewn byd gwaith digidol.

Dylai’r dysgwr feddu ar gyfrifoldebau fel cymorth prosiect, paratoi dogfennau a phrosesu data gan ddefnyddio meddalwedd taenlen.

Nid oes angen cymhwyster TG ffurfiol i ymuno ar y lefel hon.

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sydd fwyaf addas i’ch rôl, a’ch busnes).

 

Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.

 

Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd  yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster.

Mae cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol yn cynnwys:

  • Gweinyddwyr sy’n gweithio mewn swyddfa ddigidol
  • Rolau mewnbynnu data sy’n defnyddio systemau cwmwl
  • Cymorth cronfeydd data
  • Datblygiad gwe
  • Rolau dadansoddwyr data iau

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg llawn amser
  • ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
  • Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma

 

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:

  • fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 2

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy