16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 3

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Ymgeisiwch nawr

Ynglŷn â’r cwrs hwn:

Mae marchnata digidol yn cyfeirio at ddefnyddio sianeli a thechnolegau digidol i hyrwyddo cynhyrchion, gwasanaethau neu frandiau. Gall y sianeli hyn gynnwys llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, safleoedd rhannu fideo, hysbysebion ar wefannau, marchnata e-bost, a mwy.

 

Mae’r Brentisiaeth hon wedi’i chynllunio i ddatblygu’r holl sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i weithio yn y diwydiant marchnata. Byddwch yn edrych ar y technegau a’r datblygiadau technolegol diweddaraf yn y gweithle i ysgogi creadigrwydd, cynhyrchiant ac effeithlonrwydd.

Mae’r Brentisiaeth hon ar gyfer ymgeiswyr sy’n gyfrifol am gefnogi marchnata yn eu gweithle ac sy’n awyddus i ddysgu sgiliau newydd neu wella eu dawn marchnata os yw’n rhan o’u rôl swydd.

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).

Mae’r unedau gorfodol yn cynnwys:

  • Defnyddio technoleg gydweithredol
  • Egwyddorion marchnata a gwerthuso
  • Datblygu proffesiynoldeb personol
  • Metrigau a dadansoddeg marchnata digidol

 

Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.

 

Ar ôl cofrestru, dyrennir aseswr i ddysgwyr hefyd. Drwy gydol y cymhwyster, bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn ei weithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) bob mis, i gefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster.

 

Wedi cwblhau’r Brentisiaeth Lefel 3, gall dysgwyr llwyddiannus symud ymlaen i’r Brentisiaeth Marchnata Digidol Lefel 4.

 

Mae cyfleoedd cyflogaeth pellach yn cynnwys:

 

  • Cynorthwyydd marchnata
  • Cydlynydd marchnata
  • Cynorthwyydd marchnata arddangos
  • Cynorthwyydd marchnata cynnwys

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg llawn amser
  • ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
  • Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma

 

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:

  • fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

 

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 3

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Ymgeisiwch nawr