16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 4

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy

Ynglŷn â’r cwrs hwn:

Mae marchnata digidol yn arf pwerus i fusnesau ddenu a rhyngweithio â’u cynulleidfa ar-lein. Mae’n cynnwys hysbysebu ar-lein, marchnata e-bost ac optimeiddio peiriannau chwilio (SEO), ac mae’n cael ei yrru yn bennaf gan ddata.

 

Mae’r Brentisiaeth hon yn sicrhau bod ymgeiswyr yn deall marchnata digidol fel strategaeth ac offeryn busnes cystadleuol, gan archwilio sut i’w ddefnyddio’n effeithiol a mesur y canlyniadau.

Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer Gweithredwyr Marchnata Digidol, Uwch Weithredwyr Marchnata neu Reolwyr Marchnata sydd eisoes â sylfaen mewn marchnata digidol ac sy’n awyddus i ddatblygu ac achredu eu sgiliau ymhellach.

 

Disgwylir i ymgeiswyr weithio ar eu pennau eu hunain, gan ymgymryd â phrosiectau neu agweddau ar brosiectau y bydd ganddynt gyfrifoldeb llwyr drostynt.

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).

 

Mae’r unedau gorfodol yn cynnwys:

  • Cynllunio marchnata
  • Moeseg a chyfreithlondeb marchnata digidol
  • Cysyniadau busnes
  • Rheoli prosiectau
  • Metrigau a dadansoddeg marchnata digidol
  • Datblygiad personol a phroffesiynol

Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.

 

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.

Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd  yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster.

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg llawn amser
  • ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
  • Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma

 

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:

  • fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster

ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 4

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy