Ynglŷn â’r cwrs hwn
Adeiladwch eich hyder ac ennill sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer cyflogaeth.
Mae’r cwrs hwn yn rhan o’r llinyn Datblygu:
- Lwfans hyfforddiant o hyd at £60 yr wythnos
- Cymorth gyda chostau teithio
- Cymorth cyflogadwyedd
- Sesiynau blasu a lleoliadau gwaith yn y diwydiant
- Cefnogaeth, cyngor ac arweiniad rheolaidd i’ch helpu i wneud y dewisiadau cywir
- Hwb mawr i’ch hyder a rhagolygon mwy disglair ar gyfer y dyfodol
Mae ein Gweithgareddau Cyfoethogi wedi’u cynllunio i sicrhau bod pobl ifanc fel chi yn gallu manteisio ar gyfleoedd unigryw. Mae cymryd rhan mewn ac ymgysylltu â sefydliadau elusennol a grwpiau cymunedol fel Jamie’s Farm yn rhan bwysig o’n rhaglen gyfoethogi.
Bydd ein rhaglen yn rhoi cyfle i chi gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol a fydd yn cefnogi eich dysgu ac a fydd yn cyfoethogi eich amserlen dysgwr wythnosol.
- Cymrwch ran mewn prosiectau arloesol
- Mwynhewch brofiadau ymarferol
- Ymgysylltwch â chyflogwyr
- Cysylltwch â sefydliadau allanol
- Dysgwch gan arbenigwyr yn y diwydiant
- Mynychwch deithiau grŵp a gweithgareddau awyr agored
- Rhowch yn ôl drwy wirfoddoli
- Gwrandewch a dysgwch gan siaradwyr gwadd arbennig
Ysgrifennydd Cyfreithiol, Rheolwr Swyddfa, Cynorthwyydd Personol a llawer mwy…
Os ydych chi’n barod i wneud cais neu eisiau gwybod mwy am ein rhaglen JGW+, cysylltwch â’n tîm heddiw.
Ffôn: 029 2070 7070
E-bost: info@acttraining.org.uk