Ynglŷn â’r cwrs hwn:
Adnabod a Rheoli Salwch ac Anafiadau yn y Gweithle – sy’n cynnig gwybodaeth fanylach, gan ganiatáu i’r cyfranogwr gynnal asesiad llawn a rhoi cymorth cyntaf ar gyfer amrywiaeth ehangach o anafiadau yn ogystal ag afiechydon difrifol fel diabetes, asthma, strôc ac ati.
Argymhellir y cwrs hwn ar gyfer Ymatebwyr Cymorth Cyntaf sy’n gweithio mewn sefydliadau mwy a/neu sefydliadau sydd â photensial uwch o anafiadau mwy amrywiol a difrifol oherwydd natur y gweithgareddau ar y safle (ffatrïoedd, adeiladwaith ac ati). Cwrs tri diwrnod yw hwn sy’n cael ei asesu’n ymarferol a thrwy arholiad ysgrifenedig.