16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 5

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy

Y nglyn â’r cwrs hwn:

Mae ein Prentisiaeth Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant, Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 5 yn galluogi dysgwyr i ddatblygu ac arddangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth yng nghyd-destun lleoliadau gofal, chwarae, dysgu a datblygu plant. Bydd dysgwyr yn gallu dangos eu bod yn deall ystod o gysyniadau, damcaniaethau a thechnegau arweinyddiaeth a rheoli.

Mae’r Brentisiaeth hon ar gyfer dysgwyr a gyflogir yn y sector Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Mae’n darparu dilyniant i ddysgwyr sydd wedi cwblhau’r cymhwyster Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (ymarfer) Lefel 3 neu gymhwyster etifeddiaeth a restrir yn y Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Rheoledig yng Nghymru – Gofal Cymdeithasol Cymru neu sydd â phrofiad perthnasol yn y sector

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).

Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.

Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams), yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster.

Mae cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol yn cynnwys:

  • Rheolwyr Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar
  • Dirprwy Reolwyr

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru · ddim mewn addysg llawn amser
  • ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
  • Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:

  • fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 5

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy