16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 3

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy

Ynglŷn â’r cwrs hwn:

Mae ein Prentisiaeth Cymorth Gofal Iechyd Clinigol Lefel 3 yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i ddysgwyr weithio mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd, gan ddarparu cymorth hanfodol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol wrth wneud diagnosis, trin a gofalu am gleifion.

Mae’r Brentisiaeth hon ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Clinigol neu Gymorth Gofal Iechyd sy’n cynorthwyo i wneud diagnosis, trin a gofalu am unigolion.

Gall hyn gynnwys amrywiaeth o leoliadau fel:

  • Adrannau ysbytai
  • Clinigau cymunedol
  • Cartrefi gofal
  • Meddygfeydd

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).

  • Lleihau haint mewn lleoliadau gofal iechyd yn y GIG yng Nghymru
  • Sgiliau cyfathrebu i’w defnyddio mewn lleoliadau gofal iechyd
  • Gweithio gyda thimau amlddisgyblaethol, cynradd, eilaidd a chymunedol
  • Egwyddorion diogelu
  • Sgiliau sylfaenol ar gyfer ymarfer seiliedig ar waith yn y GIG yng Nghymru

Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.

Ar ôl cofrestru, dyrennir aseswr i ddysgwyr hefyd. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn ei weithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) bob mis, i gefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau trwy gydol y cymhwyster.

Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster.

Mae cyfleoedd cyflogaeth yn cynnwys:

  • Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd Clinigol

 

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg llawn amser
  • ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
  • Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:

  • fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 3

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy