Ynglŷn â’r cwrs hwn:
Gyda dros 30 miliwn o geir ar ein ffyrdd yn y DU, bydd wastad galw am bobl fedrus i gadw ein cerbydau ar yr heol!
Bydd ein cymhwyster Peirianneg Modurol Lefel 1 yn ymdrin â phob agwedd ar gynnal a chadw ac atgyweirio sylfaenol cerbydau ac iechyd a diogelwch yn y gweithdy, tra’n datblygu dealltwriaeth o weithdrefnau, cyfarpar ac offer gweithdy.
Mae’r cwrs hwn yn rhan o’r llinyn datblygu:
- Lwfans hyfforddiant o hyd at £60 yr wythnos
- Cymorth gyda chostau teithio
- Cymorth cyflogadwyedd
- Lleoliadau gwaith a sesiynau blasu diwydiant benodol
- Cefnogaeth, cyngor ac arweiniad rheolaidd i’ch helpu i wneud y dewisiadau cywir
- Hwb mawr i’ch hyder a rhagolygon mwy disglair ar gyfer y dyfodol
Mae ein Gweithgareddau Cyfoethogi wedi’u cynllunio i sicrhau bod pobl ifanc fel chi yn gallu manteisio ar gyfleoedd unigryw. Mae cymryd rhan mewn ac ymgysylltu gyda sefydliadau elusennol a grwpiau cymunedol fel Jamie’s Farm yn rhan bwysig o’n rhaglen gyfoethogi.
Bydd ein rhaglen yn rhoi cyfle i chi gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol a fydd yn cefnogi eich dysgu ac a fydd yn cyfoethogi eich amserlen dysgwr wythnosol
- Cymrwch ran mewn prosiectau arloesol
- Mwynhewch brofiadau ymarferol
- Ymgysylltwch â chyflogwyr
- Cysylltwch â sefydliadau allanol
- Dysgwch gan arbenigwyr diwydiant
- Mynychwch deithiau grŵp a gweithgareddau awyr agored
- Rhowch yn ôl drwy wirfoddoli
- Gwrandewch a dysgwch gan siaradwyr gwadd arbennig
Peiriannydd, Arbenigwr Addasiadau, Peiriannydd Ansawdd, Atgyweirio Cerbydau a llawer mwy…
If you’re ready to apply or want to find out more about our JGW+ programme, get in touch with our team today.
Tel: 029 2070 7070
Email: info@acttraining.org.uk