16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 2

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy

Ynglŷn â’r cwrs hwn:

Bydd ein Prentisiaeth Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhoi cyflwyniad trylwyr i’r egwyddorion, y gwerthoedd a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio yn y sector gofal iechyd gydag oedolion.

 

Nod y cwrs yw rhoi cyflwyniad trylwyr i ddysgwyr i’r egwyddorion, y gwerthoedd a’r wybodaeth sydd eu hangen i symud ymlaen at rolau yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd hefyd yn galluogi dysgwyr i wneud cais i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

  • Dysgwyr sydd yn gweithio yn y sectorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Dysgwyr sy’n dychwelyd i’r gweithle ar ôl seibiant gyrfa ac sydd am ddiweddaru eu gwybodaeth a’u sgiliau
  • Dysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau (Oedolion) Lefel 2
  • Gweithwyr Cynnal mewn amgylchedd gofal cychwynnol

Bydd gofyn i ddysgwyr gwblhau cymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes) Rhaid i ddysgwyr gyflawni’r uned orfodol ac o leiaf, 14 credyd o Grŵp A a 7 credyd o naill ai Grŵp A neu Grŵp B.

Uned Orfodol

  • Cefnogi ymarfer craidd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)

 

Unedau dewisol:

Grŵp A:

  • Cyfrannu at ofal a chymorth unigolion sy’n byw gartref.
  • Darparu gofal a chymorth i unigolion sy’n byw mewn cartrefi gofal.
  • Cyfrannu at gefnogi unigolion sy’n byw gyda dementia.
  • Cyfrannu at gefnogaeth unigolion gan ddefnyddio technoleg gynorthwyol electronig.
  • Hybu cymorth i unigolion ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth
  • Cyfrannu at gefnogi unigolion sy’n camddefnyddio sylweddau.
  • Hybu dulliau cadarnhaol o gefnogi ymddygiad.
  • Cefnogi unigolion â nam corfforol.

 

Grŵp B

  • Cefnogi unigolion o ran symud a lleoli.
  • Cefnogi unigolion i barhau i allu symud o gwmpas a lleihau’r risg o gwympo
  • Cefnogi’r defnydd o feddyginiaeth mewn lleoliadau gofal cymdeithasol.
  • Cefnogi unigolion â nam ar y synhwyrau.
  • Cefnogi ymarfer diogelwch bwyd mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Cefnogi unigolion i reoli poen ac anesmwythyd.
  • Cefnogi unigolion sydd â gofynion deietegol arbennig gyda’u maeth a’u hydradiad
  • Cefnogi unigolion i reoli ymataliaeth.

 

Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.

 

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.

Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn, gall dysgwyr llwyddiannus symud ymlaen i’n cymhwyster Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion). Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster.

 

Mae cyfleoedd cyflogaeth pellach yn cynnwys:

  • Cynorthwywyr Gofal Iechyd
  • Gweithwyr Gofal Cartref
  • Gweithwyr Gofal Byw Cefnogol
  • Gweithwyr gofal mewn amgylchedd gofal cychwynnol

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg llawn amser
  • ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
  • Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma

 

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:

  • fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 2

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy