16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 3

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy

Ynglŷn â’r cwrs hwn:

Mae ein Diploma Lefel 3 Rheoli Gofal Iechyd yn sicrhau bod gan ddysgwyr y sgiliau a’r wybodaeth i reoli gwasanaethau clinigol ac anghlinigol ar draws y GIG.

 

Bydd y cwrs yn eich cefnogi i ymgymryd â’ch cyfrifoldebau mewn lleoliad clinigol yn broffesiynol ac yn fedrus. Bydd yn eich galluogi i gynnal rhediad esmwyth yr amgylchedd clinigol

Dysgwyr sy’n rheoli tîm mewn lleoliad clinigol neu anghlinigol yn y GIG, ac sydd ganddynt gyfrifoldeb dros reoli staff a’r amgylchedd gwaith.

Bydd gofyn i ddysgwyr gwblhau cymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).

 

Unedau Gorfodol

  • Cyflwyno Hyfforddiant Trwy Arddangos a Chyfarwyddiadau
  • Egwyddorion gweithio ym maes gofal iechyd.
  • Goruchwylio staff mewn sefydliadau gofal iechyd.
  • Rheoli cofnodion adnoddau dynol mewn sefydliad gofal iechyd.
  • Deall darpariaeth Gymraeg mewn cyfleusterau gofal iechyd.
  • Rheoli perfformiad unigolion mewn lleoliad gofal iechyd.

 

Unedau Dewisol

  • Rheoli swyddfa
  • Rheoli cyllideb
  • Gweithredu newid
  • Rheoli gwrthdaro o fewn tîm
  • Cynnal safonau ansawdd yn y sector iechyd
  • Rheoli cyfarfod
  • Gwella gwasanaethau yn y sector iechyd
  • Rheoli adnoddau mewn sefydliad gofal iechyd

Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.

 

Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd  yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Mae cyfleoedd cyflogaeth pellach yn cynnwys:

  • Arweinwyr tîm
  • Rheolwyr

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg llawn amser
  • ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
  • Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma

 

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:

  • fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

 

 

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 3

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy