Ynglŷn â’r cwrs hwn:
Nod ein Prentisiaeth Cymorth Gofal Iechyd Clinigol Lefel 2 yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar ddysgwyr i gefnogi gweithwyr clinigol proffesiynol a’r tîm Gofal Iechyd ehangach.
Bydd y cwrs yn eich cynorthwyo i ymgymryd â’ch cyfrifoldebau mewn lleoliad clinigol yn broffesiynol ac yn fedrus. Bydd yn eich galluogi i gefnogi rhediad esmwyth yr amgylchedd clinigol.
- Dysgwyr sy’n gweithio mewn rôl anghlinigol mewn amgylchedd Gofal Iechyd
- Gweithwyr cymorth sy’n gweithio ochr yn ochr â gweithwyr iechyd proffesiynol a’r tîm Gofal Iechyd ehangach i’w galluogi i gyflawni eu rolau’n effeithiol.
Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.
Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).
Unedau Gorfodol
- Cyflwyniad i ddatblygiad personol
- Cyflwyniad i gyfathrebu
- Cyflwyniad i Gydraddoldeb a Chynhwysiant
- Rôl y gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol.
- Cyfrannu at iechyd a diogelwch.
Unedau Dewisol
- Cyfrannu at effeithiolrwydd tîm
- Casglu llieiniau a gwneud gwelyau mewn lleoliadau gofal iechyd.
- Lleihau’r risg o haint wrth gael gwared â llieiniau a ddefnyddiwyd.
Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.
Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.
Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn, gall dysgwyr llwyddiannus symud ymlaen at ein cymhwyster Gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd Lefel 3. Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster.
Mae cyfleoedd cyflogaeth pellach yn cynnwys:
- Gweithwyr cymorth gofal iechyd
- Clercod Ward
- Clercod Cofnodion Meddygol / Iechyd
- Porthorion
- Cadw tŷ
- Arlwyaeth
- Garddwr
Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:
- yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
- yn byw yng Nghymru
- ddim mewn addysg llawn amser
- ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
- Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma
Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:
- fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
- gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
- ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
- gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
- cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru