16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 2

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Ymgeisiwch nawr

Ynglŷn â’r cwrs hwn:

Nod ein Prentisiaeth Cymorth Gofal Iechyd Clinigol Lefel 2 yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar ddysgwyr i gefnogi gweithwyr clinigol proffesiynol a’r tîm Gofal Iechyd ehangach. Bydd y cwrs yn eich cynorthwyo i ymgymryd â’ch cyfrifoldebau mewn lleoliad clinigol yn broffesiynol ac yn fedrus. Bydd yn eich galluogi i gefnogi rhediad esmwyth yr amgylchedd clinigol.

Gweithwyr cymorth sy’n gweithio ochr yn ochr â gweithwyr iechyd proffesiynol a’r tîm Gofal Iechyd ehangach i’w galluogi i gyflawni eu rolau’n effeithiol. Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes). Unedau Gorfodol

· Cyflwyniad i ddatblygiad personol.

· Cyflwyniad i gyfathrebu.

· Cyflwyniad i Gydraddoldeb a Chynhwysiant.

· Rôl y gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol.

· Cyfrannu at iechyd a diogelwch. Unedau Dewisol

· Cyfrannu at effeithiolrwydd tîm.

· Casglu llieiniau a gwneud gwelyau mewn lleoliadau gofal iechyd.

· Lleihau’r risg o haint wrth gael gwared â llieiniau a ddefnyddiwyd. Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell. Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn, gall dysgwyr llwyddiannus symud ymlaen at ein cymhwyster Gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd Lefel 3. Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster. Mae cyfleoedd cyflogaeth pellach yn cynnwys:

· Gweithwyr cymorth gofal iechyd

· Clercod Ward

· Clercod Cofnodion Meddygol / Iechyd

· Porthorion

· Cadw tŷ

· Arlwyaeth

· Garddwr

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

· yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)

· yn byw yng Nghymru · ddim mewn addysg llawn amser

· ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru · Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:

· fod yn gweithio am o leiaf 16 awr

· gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster

· ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd

· gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster

· cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 2

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Ymgeisiwch nawr