Ydych chi’n awyddus i wella sgiliau neu gynyddu eich gwybodaeth i ddatblygu eich gyrfa? Bydd cwrs Tystysgrif IEMA mewn Rheolaeth Amgylcheddol yn darparu’r wybodaeth fanwl am yr amgylchedd a chynaliadwyedd rydych chi’n awyddus i ddatblygu. Yn ogystal â gwella eich gwybodaeth, mae’r cwrs hwn yn mynd cam ymhellach ac yn rhoi’r gallu i chi gymhwyso offer rheoli ac asesu amgylcheddol sydd eu hangen i fod yn ymarferydd effeithiol. Mae’r cwrs hwn yn arwain yn uniongyrchol at Aelodaeth Ymarferydd IEMA.
IEMA yw’r corff proffesiynol ar gyfer pawb sy’n gweithio ym maes yr amgylchedd a chynaliadwyedd. Mae IEMA yn gyfrifol am sicrhau bod gan bobl sy’n gweithio ar y rheng flaen yn y meysydd hyn y wybodaeth, cymwyseddau, sgiliau a hyder perthnasol i wneud swydd broffesiynol. Mae IEMA hefyd yn helpu busnesau, llywodraethau a rheoleiddwyr i wneud y peth iawn o ran mentrau, heriau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd a chynaliadwyedd.
Mae’r cwrs hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn sefydliadau ar lefel weithredol ac yn dilyn llwybr gyrfa yn yr amgylchedd a chynaliadwyedd. Byddwch yn gweithio o fewn rheolaeth amgylcheddol neu gynaliadwyedd ac angen gwybodaeth fanwl am egwyddorion amgylcheddol a chynaliadwyedd, offer rheoli a sgiliau eraill i gyflawni newid cadarnhaol yn effeithiol.
Yn alinio â’r cymwyseddau gofynnol ar gyfer Aelodaeth Ymarferydd IEMA, mae’r cwrs hwn yn berffaith i unrhyw un sy’n dymuno uwchraddio eu haelodaeth IEMA i Lefel Ymarferydd ac Ymarferydd Amgylcheddol Cofrestredig (REnvP).
Y Dystysgrif mewn Rheolaeth Amgylcheddol yw’r llwybr hyfforddi at aelodaeth Ymarferydd IEMA. Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, fe’ch gwahoddir i gadarnhau eich cais i dderbyn Aelodaeth Ymarferydd. Yn ystod y cwrs, byddwch yn Ymgeisydd Aelod Ymarferydd a phan fyddwch yn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus fe’ch gwahoddir i gyflwyno cais i fod yn Aelod Ymarferydd (mae cost ychwanegol ar gyfer REnvP).
Bydd angen lefel sylfaenol o wybodaeth amgylcheddol a/neu gynaliadwyedd a enillwyd drwy brofiad gwaith neu gwrs perthnasol, fel y Dystysgrif Sylfaen mewn Rheolaeth Amgylcheddol.
Dros y tri modiwl, bydd dysgwyr ar y cwrs hwn yn gallu:
- Esbonio goblygiadau tueddiadau byd-eang i’r amgylchedd, i gymdeithas, i’r economi ac i sefydliadau a rôl ymarferydd Amgylchedd/Cynaliadwyedd wrth oresgyn yr heriau hyn
- Esbonio modelau busnes/llywodraethu cynaliadwy, eu hegwyddorion sylfaenol a’u perthynas â sefydliadau, cynhyrchion a gwasanaethau
- Esbonio egwyddorion amgylcheddol a’u perthynas â sefydliadau, cynhyrchion a gwasanaethau
- Esbonio polisi a deddfwriaeth bwysig a’u goblygiadau i sefydliadau, cynhyrchion a gwasanaethau
- Esbonio offer, technegau, systemau ac arferion pwysig a pherthnasol, eu pwrpas a sut y gellir eu defnyddio i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau cynaliadwy a gwella perfformiad cynaliadwyedd
- Egluro rôl arloesi ac arferion blaenllaw eraill wrth ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau cynaliadwy a darparu datrysiadau cynaliadwy
- Casglu a dadansoddi data yn feirniadol, ac adrodd gwybodaeth sy’n llywio gwneud penderfyniadau
- Nodi problemau ac asesu cyfleoedd sy’n darparu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol a chynaliadwy
- Penderfynu, gweithredu a mesur dulliau cyfathrebu effeithiol
- Adnabod a chymryd rhan mewn cyfathrebu dwyffordd â rhanddeiliaid
- Cymhwyso neu ddefnyddio offer, technegau, systemau ac arferion sy’n adnabod cyfleoedd a risgiau.
- Darparu prosiectau a rhaglenni sy’n cyflawni gwella perfformiad
- Gweithredu newid a thrawsnewid
Mae hwn yn gwrs 15 diwrnod (120 awr), sy’n cael ei gyflwyno ar-lein. Cyflwynir ein cyrsiau gan hyfforddwyr cymwys sydd wedi’u hasesu gan IEMA er mwyn sicrhau ansawdd.
Mae tri aseiniad seiliedig ar wybodaeth ac un asesiad cymhwysedd a ddylai roi enghreifftiau o sut mae’r wybodaeth a ddysgwyd yn ystod y cwrs wedi cael ei gymhwyso’n ymarferol yn y gweithle. Ar ôl cwblhau eich asesiad yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn tystysgrif ddigidol i gydnabod eich cyflawniad a byddwch yn derbyn manylion am sut i ymuno ag IEMA fel Aelod Ymarferydd, gan ennill ôl-ddodiad proffesiynol PIEMA a’r holl fuddion eraill sy’n dod o fod yn aelod o gorff proffesiynol.
Tystysgrif mewn Rheolaeth Amgylcheddol | ||||
Carfan | Modiwl | Dyddiad | Lleoliad | Amse |
1 | 1 | 10.02.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 |
11.02.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
12.02.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
13.02.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
14.02.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
2 | 10.03.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | |
11.03.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
12.03.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
13.03.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
14.03.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
3 | 07.04.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | |
08.04.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
09.04.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
10.04.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
11.04.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
2 | 1 | 24.02.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 |
25.02.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
26.02.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
27.02.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
28.02.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
2 | 31.03.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | |
01.04.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
02.04.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
03.04.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
04.04.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
3 | 06.05.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | |
07.05.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
08.05.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
09.05.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
12.05.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
3 | 1 | 19.05.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 |
20.05.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
21.05.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
22.05.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
23.05.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
2 | 23.06.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | |
24.06.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
25.06.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
26.06.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
27.06.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
3 | 28.07.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | |
29.07.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
30.07.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
31.07.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
01.08.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
4 | 1 | 07.07.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 |
08.07.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
09.07.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
10.07.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
11.07.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
2 | 11.08.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | |
12.08.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
13.08.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
14.08.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
15.08.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
3 | 15.09.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | |
16.09.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
17.09.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
18.09.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
19.09.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 | ||
20.09.25 | Anghysbell | 09.30-16.30 |