16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Cwrs byr

Lefel

Lefel 3

Lleoliad

Ar-lein/F2F

Dyddiad cychwyn

Dyddiadau Lluosog Ar Gael

Cost

PLA
Darganfyddwch mwy

Ydych chi’n newydd i’r amgylchedd neu gynaliadwyedd, neu ar ddechrau eich gyrfa ac yn chwilio am gydnabyddiaeth? Mae’r ymgyrch tuag at gynaliadwyedd a’r ysfa am Sgiliau Gwyrdd wedi creu llwybrau proffesiynol newydd ar draws pob sector ac mae cwrs Tystysgrif Sylfaenol IEMA mewn Rheolaeth Amgylcheddol yn ffordd berffaith o ddangos bod gennych y wybodaeth a’r sgiliau i ddechrau eich gyrfa mewn cynaliadwyedd. Mae’r cwrs hwn yn arwain yn uniongyrchol at Aelodaeth Gysylltiol IEMA.

Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen o wybodaeth amgylcheddol a chynaliadwyedd i chi adeiladu arni. Gan gwmpasu ystod eang o egwyddorion amgylcheddol, cynaliadwyedd a llywodraethu, bydd y cwrs yn rhoi dealltwriaeth i ddysgwyr o ehangder yr agenda cynaliadwyedd, a’r arfau a’r sgiliau rheoli y bydd eu hangen arnynt wrth weithio yn y maes hwn

IEMA yw’r corff proffesiynol ar gyfer pawb sy’n gweithio ym maes yr amgylchedd a chynaliadwyedd. Mae IEMA yn gyfrifol am sicrhau bod gan bobl sy’n gweithio ar y rheng flaen yn y meysydd hyn y wybodaeth, cymwyseddau, sgiliau a hyder perthnasol i weithredu’n broffesiynol. Mae IEMA hefyd yn helpu busnesau, llywodraethau a rheoleiddwyr i wneud y peth iawn mewn mentrau, heriau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd a chynaliadwyedd.

Mae’r cwrs hwn ar gyfer pobl sy’n dechrau, neu sy’n newid i yrfa mewn rolau sy’n ymwneud a’r amgylchedd neu gynaliadwyedd. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol arnoch cyn dilyn y cwrs hwn gan y bydd yn cynnwys popeth sydd angen i chi ei wybod i ddechrau ar eich taith.

Mae’r cwrs hwn hefyd yn wych i bobl sy’n gweithio mewn proffesiynau eraill, megis marchnata neu gyllid, gael dealltwriaeth sylfaenol o gynaliadwyedd y gallech ei gymhwyso yn eich rôl.

Yn cyd-fynd â’r cymwyseddau gofynnol ar gyfer Aelodaeth Gysylltiol IEMA (dysgwch fwy am y rhain yn ein Map Sgiliau Cynaliadwyedd , mae’r cwrs hwn yn golygu y gallwch wneud cais am aelodaeth blwyddyn fel Aelod Cysylltiol IEMA ar ôl ei gwblhau a llwyddo yn yr arholiad lluosddewis.

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.

Wedi ei gwblhau, bydd dysgwr ar y cwrs hwn yn gallu:

  • Amlinellu goblygiadau tueddiadau byd-eang ar gyfer yr amgylchedd, i gymdeithas, i’r economi ac i sefydliadau
  • Amlinellu egwyddorion busnes/llywodraethu cynaliadwy a’u perthynas â sefydliadau, cynhyrchion a gwasanaethau
  • Amlinellu egwyddorion amgylcheddol a’u perthynas â sefydliadau, cynhyrchion a gwasanaethau
  • Amlinellu prif bolisïau a deddfwriaeth a’u goblygiadau i sefydliadau, cynhyrchion a gwasanaethau
  • Amlinellu offer, technegau, systemau ac arferion pwysig a ddefnyddir i wella perfformiad cynaliadwyedd
  • Amlinellu rôl arloesi ac arferion blaenllaw eraill wrth ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau cynaliadwy a darparu datrysiadau cynaliadwy
  • Casglu data, cynnal dadansoddiadau, a gwerthuso gwybodaeth
  • Ymchwilio a chynllunio er mwyn darparu datrysiadau cynaliadwy
  • Cyfathrebu darganfyddiadau’n effeithiol a chasglu adborth
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid
  • Amlinellu offer a thechnegau sy’n adnabod cyfleoedd a risgiau
  • Adnabod a chynnig ffyrdd o wella perfformiad
  • Cefnogi newid a thrawsnewid i wella cynaliadwyedd

 

Mae hwn yn gwrs 5 diwrnod (40 awr), sy’n cael ei gyflwyno ar-lein.

Cyflwynir ein cyrsiau gan hyfforddwyr cymwys y mae IEMA wedi’u hasesu er mwyn sicrhau ansawdd.

Ar ddiwedd y pum diwrnod, byddwch yn sefyll arholiad un awr, llyfr agored, lluosddewis ar-lein.

Ar ôl llwyddo yn eich arholiad, byddwch yn derbyn tystysgrif ddigidol i gydnabod eich cyflawniad a byddwch yn derbyn manylion ynglŷn â sut i ymuno ag IEMA fel Aelod Cysylltiol, gan ennill ôl-ddodiad proffesiynol AIEMA a’r holl fuddion eraill sy’n dod o fod yn aelod o gorff proffesiynol.

 

Tystysgrif Sylfaenol
Carfan Dyddiad Lleoliad Amser
1 28.10.24 Anghysbell 09.30-16.30
29.10.24 Anghysbell 09.30-16.30
30.10.24 Anghysbell 09.30-16.30
31.10.24 Anghysbell 09.30-16.30
01.11.24 Anghysbell 09.30-16.30
2 11.11.24 Anghysbell 09.30-16.30
12.11.24 Anghysbell 09.30-16.30
13.11.24 Anghysbell 09.30-16.30
14.11.24 Anghysbell 09.30-16.30
15.11.24 Anghysbell 09.30-16.30
3 02.12.24 Anghysbell 09.30-16.30
03.12.24 Anghysbell 09.30-16.30
04.12.24 Anghysbell 09.30-16.30
05.12.24 Anghysbell 09.30-16.30
06.12.24 Anghysbell 09.30-16.30
4 27.01.25 Anghysbell 09.30-16.30
28.01.25 Anghysbell 09.30-16.30
29.01.25 Anghysbell 09.30-16.30
30.01.25 Anghysbell 09.30-16.30
31.01.25 Anghysbell 09.30-16.30
5 31.03.25 Anghysbell 09.30-16.30
01.04.25 Anghysbell 09.30-16.30
02.04.25 Anghysbell 09.30-16.30
03.04.25 Anghysbell 09.30-16.30
04.04.25 Anghysbell 09.30-16.30
6 28.04.25 Anghysbell 09.30-16.30
29.04.25 Anghysbell 09.30-16.30
30.04.25 Anghysbell 09.30-16.30
01.05.25 Anghysbell 09.30-16.30
02.05.25 Anghysbell 09.30-16.30
7 19.05.25 Anghysbell 09.30-16.30
20.05.25 Anghysbell 09.30-16.30
21.05.25 Anghysbell 09.30-16.30
22.05.25 Anghysbell 09.30-16.30
23.05.25 Anghysbell 09.30-16.30
8 02.06.25 Anghysbell 09.30-16.30
03.06.25 Anghysbell 09.30-16.30
04.06.25 Anghysbell 09.30-16.30
05.06.25 Anghysbell 09.30-16.30
06.06.25 Anghysbell 09.30-16.30
9 09.06.25 Anghysbell 09.30-16.30
10.06.25 Anghysbell 09.30-16.30
11.06.25 Anghysbell 09.30-16.30
12.06.25 Anghysbell 09.30-16.30
13.06.25 Anghysbell 09.30-16.30
10 07.07.25 Anghysbell 09.30-16.30
08.07.25 Anghysbell 09.30-16.30
09.07.25 Anghysbell 09.30-16.30
10.07.25 Anghysbell 09.30-16.30
11.07.25 Anghysbell 09.30-16.30
11 14.07.25 Anghysbell 09.30-16.30
15.07.25 Anghysbell 09.30-16.30
16.07.25 Anghysbell 09.30-16.30
17.07.25 Anghysbell 09.30-16.30
18.07.25 Anghysbell 09.30-16.30

 

Sut ydych chi’n archebu lle ar gwrs?

Math o gwrs

Cwrs byr

Lefel

Lefel 3

Lleoliad

Ar-lein/F2F

Dyddiad cychwyn

Dyddiadau Lluosog Ar Gael

Cost

PLA
Darganfyddwch mwy