Ynglŷn â’r cwrs hwn:
Mae ein Prentisiaeth Lefel 2 mewn Gwaith Chwarae yn paratoi dysgwyr i weithio mewn amgylchedd chwarae. Cefnogir ymarferwyr i ddarparu nifer o weithgareddau a chyfleoedd ysgogol i blant, gan hyrwyddo chwarae a datblygiad.
Mae’r Brentisiaeth hon yn addas ar gyfer Gweithwyr Chwarae Cynorthwyol, Cynorthwywyr Canolfan Chwarae a phobl sy’n gweithio gyda phlant 4 – 16 oed mewn:
- Cynlluniau chwarae
- Meysydd chwarae antur
- Clybiau ar ôl ysgol
- Darpariaeth gwyliau
Bydd gofyn i ddysgwyr gwblhau cymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).
Mae’r unedau gorfodol yn cynnwys:
- Gweithio mewn amgylchedd chwarae gyda phlant a phobl ifanc
- Egwyddorion Gwaith Chwarae
- Cefnogi Chwarae Plant a Phobl Ifanc
- Perthnasoedd yn yr amgylchedd chwarae
- Iechyd a Diogelwch yn yr Amgylchedd Chwarae
- Diogelu a Lles Plant a Phobl Ifanc yn yr Amgylchedd Chwarae
- Gweithio gyda phlant a phobl ifanc i greu mannau chwarae a chefnogaeth
- Chwarae hunan gyfeiriedig a ddewiswyd yn rhydd
- Datblygu gwaith chwarae ac ymarfer tîm eich hun
- Cyfrannu at iechyd, diogelwch, diogelu a lles plant a phobl ifanc
- Defnyddio’r amgylchedd chwarae
- Helpu i wella’ch ymarfer eich hun a’r Gweithiwr Chwarae
- Gwaith Chwarae Myfyriol Tîm
- Ymarfer Perthnasau Cymorth yn yr Amgylchedd Chwarae
Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.
Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.
Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.
Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn, gall dysgwyr llwyddiannus symud ymlaen i’n Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae. Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster
Mae cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol yn cynnwys:
- Gweithiwr Chwarae – y tu allan i’r ysgol / darpariaeth Clwb Gwyliau
- Cynorthwyydd Chwarae – y tu allan i’r ysgol / darpariaeth Clwb Gwyliau
Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:
- yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
- yn byw yng Nghymru
- ddim mewn addysg llawn amser
- ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
- Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma
Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:
- fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
- gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
- ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
- gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru