16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 5

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy

Ynglŷn â’r cwrs hwn:

Mae ein Prentisiaeth Lefel 5 mewn Gwaith Chwarae yn galluogi dysgwyr i gadarnhau cymhwysedd galwedigaethol i’r rheini sy’n gweithio ar lefel ymarferydd uwch, neu sy’n arwain neu’n rheoli ymarfer yng Nghymru ac yn cyfrannu at ofal plant o ansawdd uchel yng Nghymru.

Rhaid i ddysgwyr fod mewn rôl strategol ac yn gyfrifol am leoliadau chwarae mawr neu niferus. Mae hyn yn ymwneud â ‘gofal y tu allan i’r ysgol’ e.e. clwb brecwast/ar ôl ysgol, clwb gwyliau neu ofal cofleidiol.

 

Bydd gan bobl sy’n ymgymryd â’r fframwaith proffesiynol hwn brofiad sylweddol mewn Gwaith Chwarae a byddant mewn rôl reoli.

Bydd gofyn i ddysgwyr gwblhau cymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).

Mae enghreifftiau o unedau gorfodol yn cynnwys:

  • Deall yr egwyddorion a’r damcaniaethau sy’n sail i ddarpariaeth gwaith chwarae
  • Deall sut i weithio gyda chydweithwyr a phartneriaid allweddol eraill i ddatblygu fframwaith sefydliadol ar gyfer chwarae plant a phobl ifanc

 

Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.

 

Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd  yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster .

 

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg llawn amser
  • ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
  • Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma

 

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:

  • fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 5

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy