16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 2

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy

Ynglŷn â’r cwrs hwn:

Mae ein Diploma Lefel 2 mewn Gwasanaethau Gweinyddol a Derbynfa Gofal Sylfaenol wedi’i gynllunio i gyflwyno’r sgiliau a’r wybodaeth gychwynnol sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus mewn swydd weinyddol neu dderbynfa rheng flaen.

 

Bydd y Brentisiaeth hon yn galluogi dysgwyr i ymgymryd â’u rolau a’u cyfrifoldebau tra’n cefnogi cleifion mewn amgylchedd clinigol diogel, a chynnal ansawdd gwasanaethau fel staff rheng flaen.

Mae’r rhaglen hon ar gyfer ymgeiswyr sy’n gweithio mewn rôl sy’n wynebu cleifion, swyddfa gefn neu drin galwadau ffôn gyda lleoliad clinigol.

Bydd gofyn i ddysgwyr gwblhau cymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).

 

Mae’r unedau gorfodol yn cynnwys:

 

  • Darparu gwasanaeth derbynfa
  • Deall diogelu
  • Llywio gofal mewn gofal sylfaenol
  • Hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth
  • Cynnal safonau ansawdd mewn ymarfer cyffredinol
  • Deall darpariaeth Gymraeg mewn gofal sylfaenol anghlinigol

 

Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.

Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd  yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster.

Mae cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol yn cynnwys:

  • Gwarchod Cleifion
  • Cadw cofnodion
  • Cynnal safonau ansawdd
  • Cynnal a thrafod taliadau

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg llawn amser
  • ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
  • Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma

 

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:

  • fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 2

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy