16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 3

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy

Ynglŷn â’r cwrs hwn:

Mae ein Prentisiaeth Lefel 3 mewn Cymorth Gofal Iechyd Sylfaenol yn galluogi dysgwyr i ddod yn aelodau cymwys a phroffesiynol o dîm Clinigol o fewn lleoliad Gofal Sylfaenol.

 

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddarparu’r ymyriadau cywir yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ac i gofnodi ac adrodd ar unigolion yn eich gofal yn gywir, er mwyn sicrhau eu bod yn cael y gofal a’r driniaeth orau.

Mae’r rhaglen hon ar gyfer ymgeiswyr Gweithwyr Gofal Iechyd Clinigol, Cynorthwywyr Gofal Iechyd a phobl sy’n cynorthwyo gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gyda diagnosis, triniaeth a gofal unigolion.

Mae hwn yn ddewis amgen i’r Brentisiaeth Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd Clinigol.

(Ni all dysgwyr wneud y ddau)

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).

 

Unedau Gorfodol

  • Hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant.
  • Hyrwyddo sgiliau cyfathrebu i’w defnyddio mewn lleoliadau gofal iechyd.
  • Cymryd rhan mewn datblygiad personol.
  • Egwyddorion diogelu.
  • Ymarfer proffesiynol gofal iechyd.

 

Unedau Dewisol

  • Techneg aseptig / gofal clwyfau.
  • Deall cadw cofnodion.
  • Profion pwynt gofal.
  • Achosion a lledaeniad haint.

Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.

Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd  yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster.

Mae cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol yn cynnwys:

  • Cymorth Gofal Iechyd Sylfaenol (Meddygaeth Teulu Cymru)

 

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg llawn amser
  • ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
  • Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma

 

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:

  • fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

 

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 3

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy