16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 2

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Ymgeisiwch nawr

Ynglŷn â’r cwrs hwn:

Mae ein Tystysgrif Manwerthu Lefel 2 yn galluogi dysgwyr i ddatblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a dilyniant gyrfa yn y diwydiant manwerthu.

 

Bydd y Brentisiaeth yn edrych ar allu’r dysgwr i weithredu’n effeithiol mewn amgylchedd manwerthu, a datblygu sgiliau mwy arbenigol yn y maes hwn. Gall dysgwyr ddewis o amrywiaeth o unedau, er mwyn sicrhau eu bod yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i wneud gwelliannau yn y gweithle

Mae’r Brentisiaeth hon ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio yn y sector manwerthu ar hyn o bryd, sydd am ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio mewn ystod eang o rolau manwerthu.

 

Bydd gofyn i ddysgwyr gwblhau cymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).

 

Mae’r uned orfodol yn cynnwys:

 

  • Gweithio’n effeithiol mewn tîm manwerthu

 

Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.

 

Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd  yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn, gall dysgwyr llwyddiannus symud ymlaen i’n Prentisiaeth Manwerthu Lefel 3. Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster .

 

Mae cyfleoedd cyflogaeth pellach yn cynnwys:

 

  • Cynorthwywyr gwerthu cyffredinol
  • Rolau mwy arbenigol, er enghraifft ymgynghorwyr harddwch, ymgynghorwyr teithio neu gynorthwywyr cownter bwyd ffres

 

 

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg llawn amser
  • ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
  • Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma

 

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:

  • fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 2

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Ymgeisiwch nawr