16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 3

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Ymgeisiwch nawr

Ynglŷn â’r cwrs hwn

Mae ein Prentisiaeth Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes Lefel 3 yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau cyfryngau digidol amrywiol y gellir eu trosglwyddo ar draws sawl sector, gan gefnogi amrywiaeth o fusnesau i greu brand ar-lein. Bydd yn arfogi dysgwyr â’r wybodaeth, sgiliau a’r cymhwysedd i gefnogi systemau, prosesau a gwasanaethau busnes trwy’r cyfryngau cymdeithasol fel y gallant gyfrannu at wneud busnesau’n fwy effeithlon a chynhyrchiol.

Mae’r Brentisiaeth hon ar gyfer dysgwyr sydd am ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth am arferion y Cyfryngau Cymdeithasol.

 

Mae dysgwyr yn amrywio o berchnogion busnesau bach i ganolig sy’n dymuno gweithio ar eu brandio ar-lein trwy greu gwefannau a marchnata cyfryngau cymdeithasol, i fusnesau mwy sy’n cefnogi aelod newydd o’r tîm marchnata/cyfryngau sydd angen datblygu eu gwybodaeth Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes.

Bydd gofyn i ddysgwyr gwblhau cymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).

 

Unedau Gorfodol

 

  • Egwyddorion Cyfryngau Cymdeithasol mewn Busnes
  • Egwyddorion Allweddeiriau ac Optimeiddiaeth
  • Rheoli Rhwydweithio Cymdeithasol ar gyfer Busnes
  • Defnyddio technolegau cydweithredol

Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.

 

Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd  yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster.

 

Mae cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol yn cynnwys:

 

  • Perchennog Busnesau Bach i Ganolig sydd angen sgiliau i greu presenoldeb busnes ar-lein
  • Cynorthwyydd Cyfryngau Cymdeithasol
  • Ymgynghorydd Cyfryngau Cymdeithasol
  • Dadansoddwr Cyfryngau Cymdeithasol
  • Cynorthwyydd Cyfrifon Digidol
  • Cynorthwyydd Marchnata Digidol
  • Swyddog Cyfathrebu Digidol
  • Swyddog Ymgysylltu Cymunedol

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg llawn amser
  • ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
  • Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:

  • fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 3

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Ymgeisiwch nawr